Mae dyn 31 oed wedi ymddangos gerbron ynadon heddiw (dydd Iau, Mawrth 11) ar gyhuddiad o lofruddio merch 16 oed a fu farw wedi digwyddiad ym mwyty Tsieineaidd ei theulu yn Nhreorci.

Mae Chun Xu wedi’i gyhuddo o lofruddio Wenjing Lin – oedd hefyd yn cael ei hadnabod fel Wenjing Xu – yn ogystal â cheisio llofruddio dyn 38 oed.

Cafodd marwolaeth Wenjing Lin ei chadarnhau yn dilyn adroddiadau o drywanu yn Nhreorci ar Fawrth 5.

Cafodd dau ddyn yn eu 30au hefyd eu hanafu.

Cafodd swyddogion eu galw i Stryd Baglan yn Ynyswen tua hanner dydd yn dilyn adroddiadau am ymosodiad ym mwyty tecawe Blue Sky.

Dywedodd yr heddlu nad yw dyn 38 oed a gafodd ei arestio bellach yn cael ei amau o unrhyw drosedd a’i fod mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Ddydd Mercher (Mawrth 10), talodd Ysgol Gyfun Treorci deyrnged i Wenjing a’i disgrifio fel merch “garedig, angerddol ac uchelgeisiol”.

Mewn datganiad, dywedodd yr ysgol fod Wenjing yn “ddisgybl cyfrifol iawn” a gyfunodd ei huchelgeisiau academaidd â chefnogi ei busnes teuluol.

Ychwanegodd y datganiad: “Roedd Wenjing yn ddisgybl gonest ac angerddol, roedd yn credu ei bod hi’n bwysig sefyll dros yr hyn rydych chi’n credu ynddo bob amser.”

Mae’r ysgol yn gweithio gydag asiantaethau allanol i gefnogi’r bobl y mae marwolaeth Wenjing wedi effeithio arnynt.

Mewn datganiad gafodd ei ryddhau yr wythnos diwethaf, dywedodd y teulu: “Roedd gan Wenjing enaid tyner iawn, roedd hi’n berson tawel iawn. Helpodd Wenjing y teulu cyfan, gan weithio yn siop tecawê y teulu.

“Roedd hi’n mwynhau’r ysgol ac yn gweithio’n galed iawn. Roedd ei theulu’n ei charu.”

Bydd Chun Xu yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener (Mawrth 12).

Wenjing Xu

Teyrngedau i ferch “glên ac angerddol” a lofruddiwyd yn Nhreorci

Bu farw Wenjing Xu yn ystod ymosodiad ym mwyty tecawê ei theulu