Mae Ysgol Gyfun Treorci wedi ei disgrifio merch 16 oed gafodd ei llofruddio, fel person “clên, angerddol ac uchelgeisiol”.

Bu farw Wenjing Xu yn ystod ymosodiad ym mwyty tecawê ei theulu ddydd Gwener diwethaf (Mawrth 5).

Galwyd yr heddlu i Stryd Baglan tua hanner dydd yn dilyn adroddiadau am achos o drywanu ym mwyty tecawê Blue Sky.

Mae Heddlu’r De wedi apelio am ddeunydd dashcam gan fodurwyr a allai fod wedi ffilmio’r digwyddiad.

Dywed ditectifs fod yr ardal yn brysur ar y pryd ac efallai bod modurwyr wedi gweld y digwyddiad yn ei anterth rhwng 11.50yb a 12.15yp.

Mae dyn 31 oed oedd yn adnabod Wenjing Xu wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, tra bod dyn 38 oed hefyd yn y ddalfa mewn perthynas â’r digwyddiad.

Ddydd Mercher (Mawrth 10), dywedodd Ysgol Gyfun Treorci mewn datganiad: “Roedd Wenjing yn ddisgybl gonest ac angerddol, a oedd yn credu ei bod yn bwysig sefyll dros yr hyn rydych chi’n credu ynddo bob amser.

“Roedd ganddi griw o ffrindiau oedd yn credu mewn bod yn garedig, yn angerddol ac yn uchelgeisiol, ond, yn bwysicaf oll, bod yn wir i chi’ch hun.

“Mae’r ysgol yn gweithio gydag asiantaethau allanol i gefnogi pawb y mae’r drasiedi hon yn effeithio arnynt.”

Wenjing Xu

Heddlu’r De yn apelio am luniau dashcam yn dilyn marwolaeth merch 16 oed

Bu farw Wenjing Xu yn ystod ymosodiad honedig yn Nhreorci ar Fawrth 5
Wenjing Xu

Trin marwolaeth merch 16 oed fel llofruddiaeth

Dyn, 31, wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio Wenjing Xu, tra bod dyn 38 oed hefyd wedi’i arestio