Mae Llywodraeth Prydain yn awyddus i wella cysylltiadau trafnidiaeth ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae rhai o’r cynlluniau sy’n cael eu hystyried yn cynnwys gwella gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru – a hynny er bod trafnidiaeth wedi i ddatganoli.
Mae’r adolygiad yn cydnabod y buddion i drafnidiaeth sydd wedi deillio o ddatganoli, ond yr awgrym yw nad yw hyn yn wir am drafnidiaeth draws ffiniol.
“Mae datganoli wedi bod yn dda i drafnidiaeth, ond mae hefyd wedi arwain at ddiffyg sylw i gysylltedd rhwng y pedair gwlad, oherwydd blaenoriaethau sy’n cystadlu a chyllid cymhleth,” meddai Syr Peter Hendy CBE sydd yn gyfrifol am yr ymchwil.
“Gallai Rhwydwaith Trafnidiaeth Strategol y DU ddatrys hyn, a’r amcan craidd yw canolbwyntio ar lefelu ar draws y DU gyfan.”
Roedd 9.4m o deithiau rheilffordd rhwng Cymru a Lloegr yn 2018/19 – roedd 9.8m o deithiau rheilffordd rhwng yr Alban a Lloegr yn ystod yr un cyfnod.
‘Parchu datganoli’
Yn dilyn y cyhoeddiad mae Llywodraeth Cymru wedi galw am barchu datganoli.
“Mae’n amlwg bod yr adolygiad yn cydnabod llwyddiant datganoli trafnidiaeth a’r angen am seilwaith well, gan gynnwys o Ogledd Cymru i Fanceinion a Glannau Mersi, ac yn Ne Cymru i Fryste hyd at Lundain,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360.
“Mewn egwyddor, mae disodli’r dull TEN-T [Trans-European Transport Network] yn synhwyrol, ond y mater allweddol fydd sut y gwneir hyn.
“Mae angen i ni gydweithio a gweld partneriaeth wirioneddol i ddatblygu hyn, nid chwalu a manteisio ar bwerau a chyllid yr ydym wedi’u gweld gyda’r Gronfa Lefelu i Fyny yn ddiweddar.
“Rhaid i’r gwaith hwn symud ymlaen mewn modd sy’n parchu rôl gwledydd datganoledig, yn cynnig partneriaeth yn y trefniadau llywodraethu ac yn cael ei ddatblygu gyda rhaglen ariannu a chynlluniau y mae pob gwlad yn y DU yn cytuno â nhw ar y cyd.”
‘Adolygiad arloesol’
Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi disgrifio’r adolygiad fel un “arloesol” fydd yn helpu i gyflawni ei weledigaeth i “adeiladu’n ôl yn well” o’r coronafeirws.
“Byddwn yn manteisio ar bŵer anhygoel seilwaith sydd mewn lle i ddod a rhannau o’n gwlad sydd wedi’u gadael oddi ar y map trafnidiaeth ers gormod o amser i’r un lefel a rhannau eraill,” meddai.
“Mae’r adolygiad arloesol hwn gan Syr Peter Hendy yn rhoi’r hyn sydd eu hangen arnom i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth ledled y Deyrnas Unedig sy’n cwmpasu môr, rheilffyrdd a ffyrdd.
“Dw i hefyd am dorri’r dreth ar deithwyr ar deithiau hedfan domestig fel y gallwn gefnogi cysylltedd ledled y wlad.”
Mae’r llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo £20 miliwn tuag at ddatblygu amryw o brosiectau gan gynnwys cysylltedd rheilffyrdd rhwng arfordir gogledd Cymru a Lloegr a gwelliannau i’r rheilffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru.”
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth San Steffan y bydden nhw’n “gweithio’n agos gyda gweinyddiaethau datganoledig ar astudiaethau datblygu”.
‘Pob ffordd yn arwain i Lundain’
Mae arweinydd seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, wedi dweud bod yr Adolygiad yn adlewyrchu “obsesiwn Llundain bod pob ffordd yn arwain yno”.
“Nod hyn yw rhannu Cymru ymhellach yn ogledd a de,” meddai.
“Mae hyn yn gysylltiedig â strategaethau datblygu rhanbarthol sy’n canolbwyntio ar Loegr, fydd yn ei dro yn amharu ar ein heconomi yng Nghymru gyfan.
“Mae’n anghredadwy nad oes gan Gymru gyswllt rheilffordd rhwng y gogledd a’r de yn 2021.”