Mae Heddlu’r De, sy’n ymchwilio i farwolaeth merch 16 oed yn ardal Treorci, yn apelio am ddeunydd dashcam gan fodurwyr a allai fod wedi ffilmio’r digwyddiad heb yn wybod iddyn nhw.
Bu farw Wenjing Xu yn ystod ymosodiad honedig yn Ynyswen ddydd Gwener (Mawrth 5), a chafodd dau ddyn yn eu 30au anafiadau.
Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Baglan tua hanner dydd ar ddydd Gwener yn dilyn adroddiadau am achos o drywanu ym mwyty tecawê Blue Sky.
Dywed ditectifs fod yr ardal yn brysur ar y pryd ac efallai bod modurwyr wedi gweld y digwyddiad yn ei anterth rhwng 11.50yb a 12.15yp.
“Mae gennym dîm ymroddedig o swyddogion sydd wedi bod yn cynnal ymchwiliadau helaeth yn yr ardal a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cysylltu hyd yn hyn,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis, sy’n arwain yr ymchwiliad.
“Rydym yn gwybod bod hyn wedi digwydd ar adeg brysur iawn o’r dydd pan fyddai llawer o geir wedi gyrru heibio i safle Blue Sky sydd wrth wraidd ein hymchwiliadau, ac mae’n debygol y bydd gan nifer o’r bobol hynny ffilm dashcam a allai ein helpu.”
‘Sibrydion ar-lein’
Mae dyn 31 oed oedd yn adnabod y ferch fu farw wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, tra bod dyn 38 oed hefyd yn y ddalfa mewn perthynas â’r digwyddiad.
Mae’r ddau yn cael eu trin yn yr ysbyty am anafiadau gawson nhw yn ystod y digwyddiad ac maen nhw mewn cyflwr sefydlog.
Ychwanega Mark Lewis fod “hwn yn gyfnod eithriadol o anodd a thrawmatig i deulu Wenjing”.
“Rwy’n ymwybodol fod dyfalu a sibrydion ar-lein, felly byddwn yn annog pobol i fod yn barchus,” meddai.
“Rydym yn monitro llwyfannau ffynhonnell agored a bydd unrhyw un sy’n cyflawni troseddau yn cael eu trin yn gadarn.”
“Roedd ei theulu’n ei charu”
Mewn datganiad gafodd ei ryddhau’r wythnos diwethaf, dywedodd teulu Wenjing fod ganddi “enaid addfwyn iawn, roedd hi’n berson tawel iawn”.
“Helpodd Wenjing y teulu cyfan, gan weithio yn siop tecawê y teulu.
“Roedd hi’n mwynhau’r ysgol ac yn gweithio’n galed iawn. Roedd ei theulu’n ei charu.”