Fe fydd yr awdurdodau’n edrych eto ar eu penderfyniad i beidio ag adolygu marwolaeth dynes mewn siop sglodion yn Sir Gaerfyrddin yn 2018.

Cyn ei marwolaeth, roedd Mavis Bran, oedd yn 69 oed, wedi honni bod ei gŵr Geoffrey wedi ei llosgi â saim yn dilyn ffrae yn eu siop ym mis Hydref 2018.

Bu farw chwe niwrnod yn ddiweddarach yn sgil ei hanafiadau.

Cafwyd Geoffrey Bran, 72, yn ddieuog fis Tachwedd 2019 o achosi ei marwolaeth.

Serch hynny, penderfynodd yr awdurdodau beidio â chynnal adolygiad o’r farwolaeth er ei bod yn gysylltiedig â honiadau o drais yn y cartref.

Bydd partneriaeth sy’n cynnwys Heddlu Dyfed-Powys, Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, bellach yn adolygu’r penderfyniad “yn yr wythnosau nesaf”, a hynny yn dilyn ymgyrch gan elusen SafeLives.

Mavis Bran, fu farw ar ol cael ei llosgi mewn siop sglodion yn Hermon, Sir Gaerfyrddin

Dyn yn ddieuog o lofruddio ei wraig mewn siop sglodion

Bu farw Mavis Bran ar ôl cael ei llosgi gydag olew berwedig
Llun pen ac ysgwydd o'r gwleidydd, ar gefndir gwyn

Priti Patel yn gorchymyn adolygiad i “achos gwarthus” Anthony Williams

Cafodd Athony Williams ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar ar ôl cyfaddef i’r heddlu ei fod “wedi tagu” ei wraig Ruth