Yn Llys y Goron Abertawe mae dyn wedi’i gael yn ddieuog o lofruddio ei wraig ar ôl cael ei gyhuddo o’i llosgi gydag olew berwedig yn dilyn ffrae yn eu siop sglodion.

Roedd Geoffrey Bran, 71, wedi’i gyhuddo o daflu ffriwr olew at Mavis Bran, gan ei gadael gyda llosgiadau difrifol ar Hydref 23 y llynedd. Bu farw yn Ysbyty Treforys yn Abertawe chwe diwrnod yn ddiweddarach.

Cyn iddi farw, dywedodd Mavis Bran wrth ffrind a pharafeddygon bod ei gwr wedi ymosod arni am ei bod hi wedi bod yn “gegog” gydag e yn eu siop Chipoteria yn Hermon, Sir Gaerfyrddin.

Ond roedd y rheithgor wedi ei gael yn ddieuog o lofruddiaeth a’r cyhuddiad llai o ddynladdiad yn dilyn yr achos yn Llys y Goron Abertawe.

Roedd Geoffrey Bran yn ei ddagrau pan gafodd y dyfarniad ei gyhoeddi.

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o ymosod i ddechrau ond roedd wedi gwadu hynny. Dywedodd wrth yr heddlu bod ei wraig wedi llithro a bod y ffriwr wedi mynd drosti.

Roedd y cwpl yn berchen ar tua 10 o fusnesau yn ne Cymru a chlywodd y llys bod y pwysau ariannol yn aml wedi arwain at ffraeo rhwng y ddau.

Roedd Geoffrey Bran wedi dweud bod ei wraig wedi bod yn yfed gwin coch ar y diwrnod y cafodd ei llosgi a’i bod wedi “drysu” pan ddywedodd mai fe oedd yn gyfrifol am ymosod arni gyda’r ffriwr.

Cafodd Geoffrey Bran ei ryddhau gan y barnwr Paul Thomas QC ac mae llefarydd ar ran y teulu wedi gwneud datganiad yn gofyn am gael “parhau gyda’u bywydau a galaru’n iawn heb ymyrraeth bellach.”