Mae’r cwmni awyrennau EasyJet yn ail-lansio eu busnes pecynnau gwyliau wrth iddyn nhw geisio cynyddu nifer eu cwsmeriaid yn dilyn cwymp Thomas Cook.
Daw’r cyhoeddiad wedi i elw’r cwmni ostwng 26%. Mae EasyJet yn rhoi’r bai ar “ddiffyg hyder ymhlith cwsmeriaid” ac “ansicrwydd” ynghylch Brexit am y cwymp.
Roedd elw’r cwmni wedi gostwng 26% cyn treth i £427 miliwn am y 12 mis hyd at Fedi 30.
Dywed EasyJet fod eu helw wedi bod yn well yn ail hanner y flwyddyn, yn sgil mentrau’r cwmni yn ogystal ag effaith streiciau gan weithwyr British Airways a Ryanair.
Wrth ail-lansio’r pecynnau gwyliau dywedodd Prif Weithredwr EasyJet, Johan Lundgren eu bod yn “dod a hyblygrwydd a gwerth am arian i’r farchnad.”
“Rydym yn teimlo bod bwlch yn y farchnad am fusnes modern, perthnasol, a hyblyg i gwsmeriaid heddiw.”