Mae Gwlad Gwlad yn dweud mai “sail unrhyw gymdeithas wâr ydi’r gallu i fyw hefo safbwyntiau gwahanol”.
Maen nhw’n amddiffyn datganiad sydd wedi ymddangos ar eu tudalen Facebook yn tynnu sylw at helynt Sahar al-Faifi, ymgyrchydd Mwslimaidd Plaid Cymru oedd yn wyneb cyhoeddus ymgyrch etholiad y blaid ac sydd wedi’i hatal am sylwadau gwrth-Semitaidd yn y gorffennol sydd newydd ddod i’r amlwg.
Datganiad Facebook
Mae datganiad Gwlad Gwlad yn cwestiynu penderfyniad Plaid Cymru i ddefnyddio Sahar al-Faifi fel wyneb cyhoeddus yr etholiad.
Yn y darllediad gwleidyddol, mae hi’n gwisgo’r niqab, dilledyn sy’n golygu mai dim ond ei llygaid sy’n weladwy.
Yn ôl datganiad Facebook Gwlad Gwlad, mae’n “rhyfedd fod Plaid wedi penderfynu rhoi platfform i rywun sy’n mynnu gwisgo niqba [sic] mewn bywyd cyhoeddus”.
“Mae darllen wynebau wedi bod yn rhan hanfodol o fywyd dynol erioed,” meddai’r datganiad wedyn.
“Mae a wnelo ag ymddiried, bod yn agored a thryloywder ymysg pobol.”
Aeth ymlaen i ddweud: “Mae’r embaras yma [“loss of face”] yn dangos pa mor aml mae cywirdeb gwleidyddol yn mynd yn groes i’r graen o safbwynt synnwyr cyffredin a lles y gymdeithas.”
Ymateb chwyrn i’r datganiad Facebook
Roedd y datganiad ar Facebook wedi ennyn ymateb chwyrn gan rai.
Roedd un, Richard A Glaves yn dweud ei fod yn “deall pam fod dynes yn dewis gwisgo niqab” ac na ddylid ei thrafod “mewn modd negyddol” rhag i’r blaid “gael ei gweld yn asgell dde eithafol” a “ddim yn gynhwysfawr i holl bobol Cymru”.
Dywedodd un arall, Rob Mash, y “gallai trydar deunydd anaddas am ffydd grefyddol” fod yn un o “wendidau” Sahar al-Faifi, ond mae’n dweud wedyn bod un o ymgeiswyr Gwlad Gwlad “yn ail-drydar trydariad yn galw’r niqab yn ddilledyn afiach”.
Galw am “drafodaeth resymegol, synhwyrol, bwyllog, gall”
“O ran yr ymateb sydd wedi bod, mae’n pwysleisio pa mor ddifrifol ydi’r angen i symud i sefyllfa lle dan ni’n gallu cael trafodaeth resymegol, synhwyrol, bwyllog, gall am wahanol bethau heb i bobol emosiynu, hysteru a cheisio cywilyddio a chyhuddo pobol sy efo safbwyntiau ychydig bach yn wahanol,” meddai llefarydd ar ran Gwlad Gwlad wrth golwg360.
“Sail unrhyw gymdeithas wâr ydi’r gallu yma i allu byw hefo safbwyntiau gwahanol a delio gyda nhw a gallu ymwneud â phobol eraill mewn ffordd barchus ac mewn ffordd resymegol.”