Mae Gweinidog yr Economi, Ken Stakes, yn bwriadu cynnal trafodaethau brys gyda chwmni dur Tata yn dilyn y cyhoeddiad ddoe (Dydd Llun, Tachwedd 18), eu bod nhw am gael gwared a hyd at 3,000 o swyddi ar draws eu busnesau yn Ewrop.
Dywed y cwmni eu bod eisiau mynd i’r afael â’r farchnad ddur “ddifrifol” ond na fydd gweithfeydd yn cau – bydd oddeutu dau draean o’r swyddi sy’n cael eu colli yn eu swyddfeydd.
Mae’r cwmni eisiau “adeiladu busnes Ewropeaidd sy’n gryf a chynaliadwy o safbwynt ariannol,” meddai Henrik Adam, Prif Weithredwr Tata yn Ewrop.
“Ergyd drom”
Tra bod yr ymgeisydd Seneddol Llafur dros Aberafan, Stephen Kinnock wedi dweud: “Mae hyn yn ergyd drom i’r gweithwyr, eu teuluoedd a’r gymuned.
“Mae’n golygu ansicrwydd i’r gweithwyr dur wrth iddyn nhw aros am ragor o fanylion am ddiswyddiadau yng Nghymru ac yn enwedig yn ei gwaith mwyaf ym Mhort Talbot.
“Y gwaith dur sydd wrth galon y gymuned ac fe fyddai unrhyw ddiswyddiadau yn effeithio’n fawr ar Aberafan a’r rhanbarth ehangach.”
“Siom fawr”
Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Stakes: “Dw i’n trefnu sgwrs ar fyrder gyda Tata i weld beth y mae hyn yn ei olygu i weithwyr yng Nghymru, a sut y gallwn gefnogi’r rhai hynny y caiff y cyhoeddiad hwn effaith arnyn nhw.
“Mae newyddion heddiw yn siom fawr ac yn adlewyrchu’r sefyllfa heriol iawn sy’n cael ei hwynebu gan gynhyrchwyr dur ledled Ewrop, ond yn arbennig yn y DU, ble y mae prisiau ynni yn llawer uwch. Yn ystod y cyfnod pryderus iawn yma i weithwyr Tata Steel a’u teuluoedd, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi.”