Does dim modd dod o hyd i gofnodion cyfarfodydd am ymchwiliad Alex Salmond rhwng y Prif Weinidog Nicola Sturgeon, yr Ysgrifennydd Parhaol Leslie Evans a chwnselydd cyfreithiol Llywodraeth yr Alban.

Dywedodd John Swinney, dirprwy brif weinidog yr Alban, wrth ymchwiliad Holyrood nad oedd yn gallu darparu’r manylion roedd y pwyllgor wedi gofyn amdanyn nhw.

Mae John Swinney hefyd yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder ar ôl gwrthod cyhoeddi cyngor cyfreithiol am bron i bedwar mis.

Yn ôl tystiolaeth a gafodd ei rhoi i’r pwyllgor, mi wnaeth Nicola Sturgeon gyfarfod â Leslie Evans ar Dachwedd 2 a Thachwedd 13, 2018 i drafod yr adolygiad barnwrol.

Ond mae John Swinney yn mynnu nad oes gan y Llywodraeth “unrhyw gofnod” ohonyn nhw.

“Mae swyddogion wedi cyfeirio at nifer fach o e-byst a gafodd eu cyfnewid sy’n cyfeirio at y cyfarfodydd hyn,” meddai.

“Mae hyn yn cynnwys rhai yn dilyn y cyfarfod ar Dachwedd 2 a negeseuon e-bost cyn y cyfarfod ar Dachwedd 13 20018, a gafodd eu mynychu gan y prif weinidog a’r ysgrifennydd parhaol.

“Mae’r e-byst hyn yn ei gwneud yn glir bod ffocws y cyfarfodydd ar drafod a chytuno gyda’r cwnsler allanol i’r plediad ar gyfer yr adolygiad barnwrol.”

Dywed y byddai’r Llywodraeth yn gweithio “ar frys” i geisio cyhoeddi’r e-byst “cyn gynted â phosib yr wythnos hon”.

Annealladwy

Yn dilyn hyn, mae Donald Cameron, Aelod Ceidwadol o Senedd yr Alban, y sefyllfa fel un “annealladwy”.

“Rwyf wedi gweithredu fel cwnsler Llywodraeth yr Alban. Mewn ymgynghoriadau, mae pawb yn cymryd nodiadau,” meddai.

“Mae’n annealladwy nad yw’r cofnodion hyn yn bodoli.”

Dywed Jackie Baillie, dirprwy arweinydd Llafur yr Alban ac aelod o’r pwyllgor, fod hyn yn enghraifft arall o’r “rhwystr” mae’r pwyllgor hwn wedi’i wynebu.

“Mae’r drip, drip, drip yma o wybodaeth rannol, ar y funud olaf, yn annerbyniol,” meddai.

“Mae’r syniad na chafodd unrhyw nodiadau eu cymryd o sawl cyfarfod pwysig gyda chwnselydd, gan gynnwys un gyda’r prif weinidog a’r ysgrifennydd parhaol, yn chwerthinllyd a dweud y gwir.

“Mae angen i Lywodraeth yr Alban roi gorau i’r cyfrinachedd yma a throsglwyddo’r holl gyngor cyfreithiol neu bydd pobol yn meddwl bod ganddyn nhw rywbeth i’w guddio.

“Os nad yw’r deunydd y gofynnir amdano gan y pwyllgor ar gael, ni fydd gennym ddewis ond cefnogi pleidlais o ddiffyg hyder yn John Swinney.

“Mae angen i’r pwyllgor gael mynediad i’r holl ddeunydd a gafodd ei gadw’n yn ôl hyd yma, ac mae angen mynediad iddo nawr.”

Cynnal pleidlais hyder yn John Swinney “ddydd Mawrth neu ddydd Mercher”

Cafodd y cynnig yn erbyn dirprwy brif weinidog yr Alban ei gyflwyno’r wythno ddiwethaf

Sturgeon yn mynnu na wnaeth gynllwynio yn erbyn Salmond

“Roedd yr hyn a ddisgrifiodd yn ymddygiad amhriodol iawn yn fy marn i, efallai’n rheswm pam bod yr eiliad honno wedi’i gwreiddio yn fy meddwl”