Mae Priti Patel, yr Ysgrifennydd Cartref, wedi gorchymyn adolygiad i “achos gwarthus” menyw gafodd ei lladd gan ei gŵr yn ystod cyfyngiadau symud cyntaf y Deyrnas Unedig.
Cafodd Athony Williams, 70, ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar ar ôl cyfaddef i’r heddlu ei fod “wedi tagu” ei wraig Ruth, 67, yn eu cartref yng Nghwmbrân fore Mawrth 28 y llynedd, wedi iddo “snapio” yn dilyn cyfnod o deimlo’n ddigalon ac yn bryderus.
Cafwyd ef yn ddieuog o lofruddiaeth yn dilyn achos lle dadleuodd seicolegydd fod ei bryder “wedi dwysáu” oherwydd y cyfyngiadau, a oedd yn amharu ar ei allu i arfer hunanreolaeth.
Roedd ymgyrchwyr wedi beirniadu penderfyniad i beidio ag adolygu’r achos.
Adolygiad Dynladdiad Domestig
Nid oedd Priti Patel “yn fodlon” gyda phenderfyniad Cyngor Torfaen i beidio â chynnal adolygiad dynladdiad domestig (DHR) i’r amgylchiadau sy’n gysylltiedig â marwolaeth Ruth Williams, yn ôl y Gweinidog Diogelu, Victoria Atkins.
“Roedd hwn yn achos gwarthus ac mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Ruth Williams,” meddai Victoria Atkins.
“Ar ôl adolygu’r achos hwn yn bersonol, nid yw’r Ysgrifennydd Cartref yn fodlon â’r casgliadau a wnaed gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen nad oes unrhyw wersi i’w dysgu o’r farwolaeth drasig hon.
“Dyna pam ei bod wedi ysgrifennu at y bwrdd i’w gyfarwyddo i sefydlu adolygiad dynladdiad domestig.”
Mae Priti Patel wedi defnyddio ei phwerau o dan adran 9(3) o Ddeddf Trais yn y Cartref, Troseddu a Dioddefwyr 2004 i orchymyn yr adolygiad.
Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur Harriet Harman ei bod wedi ysgrifennu at Priti Patel yn galw am adolygiad a’i bod hi’n “falch ei bod wedi cytuno”.