Mae deiseb sy’n galw am gael cyfartaledd gwario rhwng y Llydaweg a’r Gymraeg wedi denu bron i 2,000 o lofnodion.

Dim ond 2 ewro’r flwyddyn mae Llydaw yn ei neilltuo ar gyfer pob trigolyn fel gofal lliniarol i gefnogi’r Llydaweg yn Llydaw, yn ôl NHU Bretagne, yr ymgyrch dros annibyniaeth i Lydaw, sy’n gyfrifol am greu’r ddeiseb.

Maen nhw’n cymharu hyn â’r “20 sy’n cael ei wario ar ddatblygu’r iaith Gymraeg.”

“Mae’r iaith hon, fel unrhyw un arall, yn rhan o Dreftadaeth Fyw Dynoliaeth, ac felly mae’n rhaid ei hachub a’i datblygu,” meddai NHU Bretagne mewn datganiad.

“I ddatblygu Llydaweg yn Llydaw, rydym am gael ein 20 ewro, yn raddol, o fewn pum mlynedd.

“Nid yw’n fater o ofyn i bob Llydäwr wario 18 ewro yn fwy. Ond gofyn i ranbarth Llydaw a’i Gynulliad ail-gyfeirio 18 ewro o’n trethi, sydd ganddynt eisoes, tuag y mater o frys hwn.

“Gall yr iaith Llydaweg ddiflannu. Helpwch ni i argyhoeddi rhanbarth Llydaw i achub ein hen iaith Geltaidd.”

“Ieithoedd lleiafrifol Celtaidd ac Ewropeaidd yn edrych tuag at y Gymraeg fel iaith sy’n llwyddo”

Wrth siarad â golwg360 am y ddeiseb a sefyllfa ehangach y Llydaweg, dywed y bardd a’r hanner Llydäwr Aneirig Karadog fod “sefyllfa’r Llydaweg yn gymharol i’r Gymraeg cyn deddf iaith 1993, lle mae yno hawliau sylfaenol gan yr iaith”.

“Yng nghanol yr 1990au, fe wnaeth Llywodraeth Ffrainc y Ffrangeg yn ganolog i’r wladwriaeth Ffrengig, ac mae hyn wedi cael ei ddefnyddio fel arf, yn ymwybodol neu’n anymwybodol, i nodi bod rhaid diogelu’r Ffrangeg – mae’n ffordd i esgeuluso ieithoedd lleiafrifol yn y wlad,” meddai.

“Mae yno gymaint o golli tir yn digwydd yn gyflym iawn yn Llydaw, ac mae nifer fawr o’r siaradwyr Llydaweg yno rhwng 65-80 oed bellach.

“Mae’r iaith yn dibynnu ar siaradwyr brodorol cryf.

“Rydyn ni’n poeni am y Gymraeg yng Nghymru, ond mae ieithoedd lleiafrifol Celtaidd ac Ewropeaidd yn edrych at y Gymraeg fel iaith sy’n llwyddo.

“Mae ein harweiniad ni yn gallu bod o help i’n brodyr a’n chwiorydd Brythoneg.”

“Angen pob math o gymorth ar y Llydaweg”

Mae Aneirig Karadog yn cefnogi’r ddeiseb, gan ddweud ei fod yn rhywbeth sydd “angen digwydd”.

“Mae’n rhywbeth sydd angen digwydd, er fy mod i’n amheus iawn y bydd e,” meddai.

“Does dim llawer o ddatganoli yn Llydaw, mae’r Cynulliad yno fwy fel Cyngor Sir o ran pwerau. Mae’n Gynulliad gwan.

“Ond rydw i’n sicr yn croesawu’r ddeiseb oherwydd mae angen pob math o gymorth ar y Llydaweg.”

“Popeth wedi ei ganoli”

“Mae Llywodraeth Ffrainc yn gweld cenhedloedd hanesyddol y wlad fel régions o Ffrainc, felly rhanbarthau ydyn nhw yn hytrach na chenedlaethau, ac mae hynny yn creu niwed,” meddai Aneirin Karadog.

“Mae popeth wedi ei ganoli, a does dim awydd i ddeall na helpu’r ieithoedd hyn… maen nhw’n taflu briwsion symbolaidd.

“Mae angen ymdrech fawr i gefnogi ieithoedd lleiafrifol Ffrainc.

“Y ddiweddar, roedd Gweinidog Addysg Ffrainc, Jean-Michel Blanquer, wedi ceisio cyfyngu ar y nifer o oriau yr oedd disgyblion yn astudio Llydaweg – er ei fod wedi gwneud tro pedol.

“Ac er bod y Gweinidog wedi gwneud datganiad yn dweud bod o yn cefnogi ieithoedd lleiafrifol, dyw ei weithredoedd yn sicr ddim yn cyfleu hynny.”

  • Mae’r ddeiseb yn gobeithio denu 2,500 o lofnodion ac wrth ysgrifennu’r erthygl hon, mae 1990 o bobol wedi ei llofnodi.