Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu’r hyn y gall pobol ei ddisgwyl ar ddiwrnod etholiad y Senedd fis Mai.

Oherwydd y pandemig, bydd rheolau ychwanegol yn eu lle i warchod pleidleiswyr a cheisio rheoli ymlediad y coronafeirws.

Er y cyfyngiadau sydd yn parhau yn eu lle, mae Llywodraeth Cymru yn ffyddiog y bydd yr etholiad yn mynd yn ei flaen ar Fai 6, yn ôl eu trefniadau.

Bydd etholiadau lleol, y comisiynwyr heddlu ac etholiadau Senedd yr Alban hefyd yn mynd rhagddynt ar y diwrnod hwnnw.

Ond mae llawer ym Mae Caerdydd yn teimlo na ddylai fynd yn ei flaen tan fod sefyllfa’r argyfwng yn gwella.

Ddechrau fis Chwefror, pleidleisiodd y mwyafrif o Aelodau o blaid y gallu i ohirio’r etholiad am hyd at chwe mis.

Hylif diheintio a phensel yr un

Bydd etholiadau mis Mai yn cael eu cynnal mewn ffordd debyg i etholiadau a gynhaliwyd yn flaenorol, ond bydd rhai gwahaniaethau.

Gall pleidleiswyr sy’n mynd i orsafoedd pleidleisio ddisgwyl gweld llawer o’r mesurau diogelu maen nhw eisoes yn gyfarwydd â nhw.

Bydd hylif diheintio, sgriniau diogelwch, marciau pellter a rhwystrau diogelu yn cael eu defnyddio fel y bo’n briodol.

Bydd pleidleiswyr hefyd yn cael eu hannog i ddod â phensel i farcio eu papur pleidleisio, ond bydd pensiliau glân, newydd ar gael i bawb hefyd.

Bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith y tu mewn a’r tu allan i orsafoedd pleidleisio a bydd rhaid i bob pleidleisiwr ac aelod o staff wisgo gorchudd wyneb tra eu bod nhw yno.

Ond mae’r Llywodraeth yn pwysleisio na ddylai unrhyw un sydd wedi profi’n bositif am y coronafeirws, neu sy’n dangos symptomau fynd i’r orsaf bleidleisio.

Mae modd i bobol sydd methu mynd i’r orsaf bleidleisio wneud hynny drwy bleidlais drwy’r post neu drwy benodi dirprwy i bleidleisio ar eu rhan.

Mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth yr Alban wedi rhoi rheolau newydd ar waith i alluogi pleidleiswyr i fanteisio ar bleidlais frys drwy ddirprwy hyd at 5yp ar ddiwrnod yr etholiad.

Dim ymgyrchu traddodiadol

Ar hyn o bryd, does dim hawl gan bobol ymgyrchu a rhannu taflenni gwleidyddol.

Bydd gweithgarwch ymgyrchu yn cael dechrau wrth i gyfyngiadau Covid gael eu llacio.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi rhybuddio efallai y bydd y broses o gyfrif pleidleisiau a chyhoeddi canlyniadau yn cymryd mwy o amser nag etholiadau diwethaf.

Dywedodd Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru fis Ionawr mai’r bwriad yw cyfrif pleidleisiau’r diwrnod canlynol yn hytrach na dros nos.

“Mae’r Deyrnas Unedig yn fyd-enwog am gynnal etholiadau o’r safon uchaf y gall pleidleiswyr fod yn gwbl hyderus ynddynt – etholiadau a ddarperir ym mhob ardal gan y Swyddog Canlyniadau statudol annibynnol,” meddai llywodraethau gwledydd Prydain mewn datganiad ar y cyd.

“Rydym yn gwbl hyderus yng ngallu’r Swyddogion Canlyniadau i gynnal yr etholiadau hyn mewn ffordd sy’n bodloni’r safonau uchaf o ran diogelwch y cyhoedd ac uniondeb democrataidd.

“Gobeithiwn y bydd pob etholwr yn manteisio ar y cyfle i ddweud ei ddweud yn etholiadau mis Mai gyda’r hyder bod y rhagofalon cywir ar waith.”