Ddiwrnod yn unig ar ôl datgan mai Huw Edwards fyddai Arlywydd Cymru annibynnol, mae awdur y pôl Owen Williams wedi ail-agor y bleidlais gan ddatgan nad yw 52% “yn arwydd clir o ewyllys y bobol”.
Roedd y pôl tafod-yn-y-boch yn gofyn i bobol ddewis rhwng y newyddiadurwr a’r actor Michael Sheen i fod yn “Bennaeth ar y Wladwriaeth am gyfnod o wyth mlynedd”.
Enillodd y newyddiadurwr o Langennech o 52% i 48% ond wrth adleisio helynt Brexit, fe ddywedodd nad yw’r canlyniad “yn arwydd clir o ewyllys y bobol”.
Ond wrth ail-agor y bleidlais, dywed Owen Williams “nad oedd dewis” ond gofyn i bobol bleidleisio eto, gan ychwanegu enwau Laura McAllister a’r ddarlledwraig Beti George fel opsiynau – a hynny ddiwrnod ar ôl Diwrnod Rhyngwladol y Merched.
Cafodd pobol eu holi gan Nation.Cymru hefyd pa fath o arweinydd fydden nhw’n hoffi ei gael – Brenhiniaeth Etifeddol (7.1%), Pennaeth Gweithredol (13.7%), Etholedig Seremonïol (52.9%) neu Gyngor Ffederal (26.2%).
Roedd cyfanswm o 2,188 o bleidleisiau i gyd.
Bydd y bleidlais yn cau eto heno (nos Fawrth, Mawrth 9).
Unfortunately, due to the fact that 52% to 48% is not a clear indicator of the will of the people, we are left with no choice but to reinstate this poll with two new additions.
THREAD ? https://t.co/qOvPwv3zpZ
— Owen Williams ??????? (@OwsWills) March 8, 2021