Mae Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi addo “rhoi’r adferiad cyn popeth arall” – ac yn rhybuddio y byddai annibyniaeth i Gymru yn drychinebus.

Heddiw, bydd Jane Dodds yn annerch Cynhadledd Rithwir Gwanwyn ei phlaid, gan ganolbwyntio ar yr economi, iechyd meddwl a’r amgylchedd wrth i Gymru ddechrau dod allan o’r pandemig presennol.

“Ar yr adeg dyngedfennol yma yn ein dyfodol byddai unrhyw beth heblaw sicrhau ein hadferiad o covid a’r hafoc y mae wedi’i achosi ar bob agwedd o’n bywydau yn ffôl,” meddai.

Bydd Jane Dodds hefyd yn ailddatgan ymrwymiad Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

“Mae rhai yn dweud y dylen ni fynd ar ein pennau ein hunain a thorri ein hunain i ffwrdd o’r Deyrnas Unedig,” meddai.

“Ond byddai hynny ddeg gwaith yn fwy cymhleth a deg gwaith yn fwy poenus na Brexit. Byddai’n niweidio nid yn unig y genhedlaeth nesaf, ond y cenedlaethau fyddai’n dilyn nhw.”

‘Rhwyd diogelwch’

I oresgyn effeithiau’r pandemig mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi ymrwymo i dreialu Incwm Sylfaenol Cyffredinol, adeiladu 30,000 o dai fforddiadwy newydd a chael gwared ar ardrethi busnes “annheg”.

“Yng Nghymru mae 25% o blant yn byw mewn tlodi; mae gennym gywilydd mawr o’r sefyllfa hon a rhaid i ni fod yn feiddgar wrth newid hyn,” eglura Jane Dodds.

“Rhaid i deuluoedd gael swyddi da ac addysg dda i roi gwell canlyniadau i bawb, ac i gael rhwyd diogelwch ariannol fel nad oes neb yn mynd heb fwyd a hanfodion sylfaenol eraill.

“Incwm Sylfaenol Cyffredinol yw’r rhwyd ddiogelwch honno.

“Mae Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn golygu na fydd neb yn cael eu gadael heb ddigon o arian i brynu’r hyn sydd ei angen arnyn nhw.

“Ni allwn barhau i weld ciwiau o bobol ar gyfer banciau bwyd, anobaith teuluoedd, a phlant yn byw mewn tlodi.”

30,000 o dai fforddiadwy

Mae’r blaid hefyd wedi ymrwymo i darged a osodwyd gan elusen Shelter Cymru i adeiladu 30,000 o dai fforddiadwy newydd a chael gwared ar ardrethi busnes.

“Mewn llywodraeth byddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn defnyddio ein dylanwad i ddyblu nifer y tai fforddiadwy a adeiladwyd yng Nghymru, gan wario £1.5 biliwn ar dai fforddiadwy dros y pum mlynedd nesaf.

“Nid cyfyngiadau yw’r unig her sydd yn wynebu busnesau ein Stryd Fawr, maent yn wynebu her cystadleuwyr sy’n talu llai o dreth, ac sy’n cyfrannu llai at ein heconomïau lleol. Mae’n bryd creu chwarae teg rhwng y manwerthwr lleol a’r manwerthwr byd-eang.

“Cam cyntaf tuag at wneud hynny yw cael gwared ar yr ardrethi busnes annheg a hen ffasiwn a rhoi system dreth decach y mae pob busnes yn cyfrannu ati’n deg yn eu lle.”

£1 biliwn y flwyddyn i’r amgylchedd

Pe bai Llywodraeth Democratiaid Rhyddfrydol yn cael ei hethol i’r Senedd mae’r blaid wedi addo gwario £1 biliwn y flwyddyn ar yr amgylchedd.

“Ar hyn o bryd, am bob punt mae Llywodraeth Cymru yn gwario dim ond un geiniog sy’n cael ei gwario ar ddatgarboneiddio – nid yw hyn yn ddigon da i wlad fel Cymru.

“Rydym yn awyddus i ymrwymo i wneud ein heconomi’n fwy gwyrdd, creu swyddi a gwrando ar bobol ar lefel leol am effaith yr amgylchedd ar ein cymunedau.”

Ychydig fisoedd ar ôl cael ei hethol yn Aelod Seneddol yn San Steffan collodd Jane Dodds ei sedd ym Mrycheiniog a Maesyfed yn Etholiad Cyffredinol 2019.

Roedd cryn ddyfalu pwy fyddai’n olynu Kirsty Williams, ond er mae’r cyn-AS oedd un o’r ffefrynnau William Powell sydd wedi ei ddewis gan y Democratiaid i frwydro am unig sedd y blaid yn y Senedd fis Mai.

Democratiaid Rhyddfrydol yn dewis William Powell yn hytrach na’u harweinydd i olynu Kirsty Williams

William Powell sydd wedi ei ddewis i herio etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed yn Etholiad y Senedd yn hytrach na’r arweinydd, Jane Dodds