Bu farw merch 16 oed yn dilyn “digwyddiad difrifol” yn Nhreorci yn y Rhondda ddoe (dydd Gwener 5 Mawrth).
Cafodd ei marwolaeth ei chadarnhau gan Heddlu De Cymru neithiwr.
Yn gynharach yn y dydd, roedd yr heddlu wedi cael eu galw i Stryd Baglan ym mhentref Ynyswen yn y dref, tua hanner dydd yn dilyn adroddiadau o drywaniadau yno.
Mae’r heddlu’n disgrifio’r fel un “sydyn a diesboniad” a dyw’r achos ddim wedi’i gadarnhau eto, hyd nes bydd archwiliad post mortem wedi ei gynnal.
Mae dau ddyn sydd wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad yn derbyn triniaeth am “anafiadau difrifol” yn yr ysbyty.
Mae’r heddlu’n deall fod y rheini a oedd yn rhan o’r helynt yn adnabod ei gilydd, a dydyn nhw ddim yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
‘Sioc a phryder’
Dywedodd yr Uwcharolygydd Rich Jones o Heddlu De Cymru:
“Mae hwn yn amlwg yn ddigwyddiad difrifol iawn sydd wedi achosi sioc a phryder sylweddol i’r gymuned leol ac yn ehangach.
“Mae gennym dîm ymroddgar o dditectifs sy’n gweithio’n galed i ddarganfod yr union amgylchiadau sydd wedi arwain at farwolaeth drasig y ferch ifanc hon.
“Er ei bod yn gynnar yn yr ymchwiliad, gallwn gadarnhau had ydym yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
“Fe fydd presenoldeb sylweddol gan yr heddlu yn Stryd Baglan dros y penwythnos ond byddwn yn ailagor y ffordd cyn gynted â phosibl.”