Mae mwy na miliwn o bobol yng Nghymru bellach wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn Covid-19.
13 wythnos ers i’r person cyntaf yng Nghymru gael y brechlyn, daeth cadarnhad heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 9), fod 1,007,391 o bobol wedi cael eu dos cyntaf.
Golyga hyn fod gan bron i 40% o’r boblogaeth sy’n oedolion yng Nghymru rywfaint o ddiogelwch rhag Covid-19.
Mae 192,030 o bobol hefyd wedi cael eu hail ddos.
‘Newid bywydau’
“Mae gallu dweud bod un o bob pedwar o oedolion Cymru yn awr wedi cael y dos cyntaf o’r brechlyn yn tystio i waith caled pawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddarparu’r brechlyn hwn, a fydd yn newid bywydau,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.
“Rydym wedi gweld nifer anhygoel o bobol yn manteisio ar y brechlyn hyd yma, a hoffwn ddiolch i bob un person sydd wedi cymryd rhan yn yr ymdrech genedlaethol hon.
“Mae’n hanfodol bod y lefelau uchel hyn yn parhau ac rwy’n annog pawb i dderbyn y cynnig o’r brechlyn – mae pob un dos yn cyfrif. Mae pob un dos yn dod â ni gam yn nes at agor ein cymdeithas, gam yn nes at ddyfodol disglair a’n ‘normal newydd’.”
Fodd bynnag, mae’n pwysleisio y dylai pobol barhau i gadw at y rheolau hyd yn oed ar ôl cael y brechlyn.
Cynnydd mewn cyflenwad
Ar ôl dechrau araf i’r rhaglen frechu, Cymru oedd y wlad gyntaf o blith gwledydd Prydain i roi dos cyntaf o frechlyn Covid-19 i draean o’r boblogaeth o oedolion.
Oherwydd cynnydd mewn cyflenwadau, mae disgwyl y bydd 20,000 o bobol yn cael eu brechu gyda’r dos cyntaf o’r brechlyn Covid-19, a 10,000 yn cael ail ddos bob dydd o hyn ymlaen.
Gallai’r cynnydd mewn cyflenwadau arwain hefyd at agor mwy o ganolfannau brechu, a mwy o feddygfeydd a fferyllfeydd yn brechu pobol.
Fis Chwefror, cafodd targedau brechu Llywodraeth Cymru eu diweddaru.
Mae disgwyl i’r brechlyn fod wedi cael ei gynnig i bob grŵp blaenoriaeth erbyn canol mis Ebrill ac i bob oedolyn arall erbyn diwedd mis Gorffennaf, yn ddibynnol ar gyflenwadau.