Bydd pob un oedolyn yng Nghymru yn cael cynnig brechlyn erbyn Gorffennaf 31.

Dyna mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi ei addo mewn cynhadledd i’r wasg y prynhawn yma (dydd Mercher 24 Chwefror).

Roedd y Llywodraeth yn wreiddiol wedi darogan y byddan nhw’n cyrraedd y targed yma erbyn yr hydref, ac mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos optimistiaeth ar eu rhan.

Bydd pobol dros 50 oed, a phobol dros 16 oed gyda chyflyrau iechyd sy’n eu gwneud yn fregus i covid, yn cael eu brechu erbyn canol mis Ebrill, yn ôl y Gweinidog.

Ochr yn ochr â hyn, daeth llu o gyhoeddiadau eraill gan Vaughan Gething yn ystod y gynhadledd.

Bydd cyflogwyr sydd â dros 50 o weithwyr yn gymwys am gefnogaeth er mwyn cynnal profion ar staff yn rheolaidd – lleihau lledaeniad y feirws yw’r nod.

Hefyd, mi fydd profi cymunedol wedi’i dargedu yn mynd rhagddo mewn rhannau o Ben-y-bont ar Ogwr Merthyr Tudful, a Rhondda Cynon Taf.

Bydd strategaeth frechu ddiwygiedig yn cael ei chyhoeddi gan y Llywodraeth yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Brechu: anableddau dysgu

Daeth y gynhadledd i’r wasg rhyw hanner awr wedi’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) newid eu hargymelliadau ynghylch pobol ag anableddau brechu.

Mae’r Llywodraeth wedi wynebu galwadau i flaenoriaethu y grŵp yma, ond mae gweinidogion wedi wfftio’r posibiliad am nad oedd y JCVI yn ei argymell.

Bellach mae’n ymddangos y bydd Llywodraeth Cymru yn newid eu safiad.

“O fewn y 30 munud diwethaf mae’r JCVI wedi cyhoeddi diweddariad i’r wybodaeth ynghylch blaenoriaethu y pobol rheiny sydd ag anableddau dysgu,” meddai Vaughan Gething.

“Wrth i mi sefyll yma mae fy nhîm yn bwrw ati ar frys i benderfynu beth yw goblygiadau y wybodaeth i’n cynlluniau ni yma yng Nghymru.

“Ond mi fyddwn yn cyhoeddi cyfarwyddyd heddiw sydd yn rhoi ystyriaeth i’r wybodaeth ddiweddaraf oddi wrth y JCVI.

“Bydd hynny’n helpu cefnogi gofalwyr nad yw’n cael eu talu, pobol ag anableddau dysgu, a phobol ag afiechyd meddyliol difrifol.

“Bydd y canllawiau yn esbonio pwy yn y grwpiau yma fydd yn gymwys i gael eu blaenoriaethu ar gyfer brechlyn, ac mi fydd yn esbonio sut y byddwn yn adnabod, cysylltu, ac yn cefnogi pobol i gael at eu brechlyn.”

Ategodd y gallai gymryd “peth amser” i GIG Cymru gynnig apwyntiadau i bawb sydd yn gymwys.

Ffigurau’r gweinidog

  • Mae achosion coronafeirws yng Nghymru ar ei lefel isaf ers diwedd mis Medi
  • Mae yna 76 achos i bob 100,000
  • Bellach mae’r gyfradd-R rhwng 0.6 a 0.9
  • Mae dros 878,000 o bobol wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn
  • Mae 28% o boblogaeth Cymru wedi’u brechu, a dros draean o oedolion y wlad

Ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru

Hyd yma mae:

  • 59,279 wedi derbyn ail ddos o’r brechlyn
  • 8% o bobol dros 80 wedi derbyn eu dos cyntaf
  • 9% o bobol 75-79 wedi derbyn dos cyntaf
  • 3% o bobol 70-74 wedi derbyn dos cyntaf
  • 202,560 achos wedi’u cadarnhau yng Nghymru
  • Cyfanswm o 5,263 farwolaeth wedi’u cofnodi (nid yw hyn yn adlewyrchu’r gwir nifer)