Dyw Llywodraeth Cymru ddim “ar hyn o bryd” yn bwriadu sefydlu clinigau arbenigol ar gyfer dioddefwyr covid hir (long covid).

Mae rhai o’r rheiny sydd yn dal y coronafeirws yn dioddef effeithiau hirdymor yn ei sgil, a fore heddiw mi wnaeth grŵp o ddioddefwyr rhannu eu profiadau gerbron Aelodau o’r Senedd.

Long Covid Wales yw enw eu grŵp, ac mae’r aelodau yn galw am sefydlu rhwydwaith o glinigau arbenigol ledled Cymru er mwyn trin y rheiny sydd â covid hir.

Wrth annerch y wasg brynhawn heddiw dywedodd Vaughan Gething bod y Llywodraeth ddim yn ystyried y trywydd hynny “ar hyn o bryd”.

Mi fydd cleifion, meddai, yn parhau i gael eu trin oddi fewn i’r gwasanaethau anghysylltiedig sydd eisoes yn bodoli.

“Mae’r llwybr driniaeth sydd gennym yng Nghymru, ar hyn o bryd, yn edrych ar yr holl weithwyr proffesiynol sydd angen bod ynghlwm â’r driniaeth,” meddai’r gweinidog.

“Rydym yn dod â’n gweithwyr proffesiynol allied [nyrsys, fferyllwyr ayyb], ein therapyddion, meddygon teulu, a doctoriaid gofal eilaidd oll ynghyd.

“Rydym yn edrych ar sut mae darparu cymorth arbenigol. A bydd y cymorth arbenigol yna ar gael mewn rhannau gwahanol o’r wlad, wedi’i drefnu ar gyfer y person [sy’n dioddef o covid hir].

“Felly dydyn ni ddim, ar hyn o bryd, yn mynd i ddilyn y trywydd o gael ystod o glinigau arbenigol penodol.”

Pwysleisiodd y gweinidog bod covid hir yn “wahanol i bobol wahanol” a bod y cyflwr yn amrywio o berson i berson. Mae hynny yn ei dro, awgryma, yn gwneud hi’n anoddach trin ag ef.

Y ddadl o blaid clinigau

Yn siarad â Phwyllgor Iechyd y Senedd fore heddiw, mi rodd Georgia Walby, aelod Long Covid Wales a dioddefwr covid hir, y ddadl o blaid clinigau arbenigol.

“Mae angen y clinigau yma oherwydd does dim gan bobol yr egni na’r adnoddau i fynd yn ôl ac ymlaen i’w meddyg teulu a chael eu cyfeirio at wasanaethau gwahanol,” meddai.

“Mae angen un lle arnyn nhw i gael eu trin. Os nad yw meddyg teulu yn gwrando arnoch, alla’ i ddweud o brofiad personol, r’ych chi jest yn rhoi’r gorau iddi.

“Rydych yn rhoi’r gorau i ffonio oherwydd mae’n sugno gormod o egni. Mae’r alwad ffôn jest yn troi’n frwydr.”

Ar ddechrau’r sesiwn bu iddi sôn am y symptomau a brofwyd. Mae’r rhain yn cynnwys bod wedi profi rhithweledigaethau (hallucinations) , blinder, pen tost, trafferth yn cerdded, a “brain fog”.

Cynhadledd i’r wasg

Yn ystod ei gynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw, cyhoeddodd Vaughan Gething y byddai £50m ychwanegol ar gael er mwyn helpu â’r gwaith o olrhain cysylltiadau covid.

Cyhoeddodd hefyd y byddai pobol ddigartref yn cael ei gosod yng ngrŵp blaenoriaeth chwech y rhaglen frechu.

Ar ddechrau’r gynhadledd dywedodd bod Cymru yn wynebu “dechrau’r broses o lacio cyfyngiadau”.

Mae disgwyl cyhoeddiad am lacio cyfyngiadau teithio oddi wrth y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ddydd Gwener.