Mae Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Cymru, wedi disgrifio sylwadau Piers Morgan am Meghan Markle, Duges Sussex, fel rhai “cwbl annerbyniol”.

Daw hyn ar ôl i Piers Morgan adael ei swydd fel cyflwynydd ‘Good Morning Britain’ ar ITV.

Fe gafodd e ffrae ag un o’i gyd-gyflwynwyr, Alex Beresford, yn fyw ar y rhaglen, am y cyfweliad ar ôl iddo fe ddweud nad oedd e’n “credu’r un gair” o honiadau Meghan Markle am ei chyflwr iechyd meddwl.

Fe gerddodd e allan o’r stiwdio yn ystod y rhaglen, gan ddychwelyd yn ddiweddarach.

Ac fe fydd Piers Morgan hefyd yn destun ymchwiliad gan Ofcom ar ôl iddyn nhw dderbyn 41,000 o gwynion am ei sylwadau am iechyd meddwl yn ystod y ffrae.

Cefndir

Yn ystod cyfweliad ag Oprah Winfrey, a gafodd ei ddarlledu ar ITV nos Lun (Mawrth 8), roedd Harry a Meghan wedi darlunio’r teulu brenhinol fel sefydliad di-hid a hiliol oedd wedi methu â’u cefnogi, yn bennaf wrth i Meghan fethu ag ymdopi â straen meddyliol.

Yn ystod y cyfweliad, datgelodd ei bod hi wedi ystyried lladd ei hun ac nad oedd hi wedi cael unrhyw gefnogaeth gan staff y teulu brenhinol, gan gynnwys yr adran adnoddau dynol.

Roedd Oprah Winfrey yn syfrdan pan ddatgelodd y cwpl fod aelod o’r teulu – ond nid y Frenhines na Dug Caeredin – wedi gwneud sylw cyn i’w mab Archie gael ei eni am ba mor dywyll fyddai ei groen.

Roedd sôn hefyd am ffrae rhwng Harry a’i dad Charles, Tywysog Cymru, a honiadau bod y teulu wedi cefnu ar Ddug Sussex yn ariannol wrth iddo baratoi i fynd â’i deulu i Ogledd America.

“Annerbyniol”

Dywedodd Mr Gething wrth gynhadledd i’r wasg yng Nghaerdydd: “Roeddwn i’n meddwl bod sylwadau Piers Morgan am beidio â chredu’r hyn oedd gan Meghan Markle i’w ddweud am ei hiechyd meddwl yn gwbl annerbyniol, yn anhygoel o angharedig ac yn union lle na ddylem fod mewn dadl gyhoeddus.

“Rydym wedi ennill llawer o dir drwy siarad a bod yn fwy agored am heriau iechyd meddwl, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y Deyrnas Unedig.”

Aeth ymlaen i ddweud fod pobol wedi profi “heriau go iawn” gyda’u hiechyd meddwl, rhai am y tro cyntaf, yn ystod cyfyngiadau symud y coronafeirws.

“Iddo wadu heb unrhyw wybodaeth na dealltwriaeth mewn gwirionedd o’r hyn oedd yn digwydd yn y berthynas deuluol honno, a dweud nad oedd yn ei chredu’n benodol am y meddyliau hunanddinistriol a ddywedodd (Meghan) ei bod wedi’u cael, rydw i’n meddwl fod hynny’n niweidiol ac yn annerbyniol,” ychwanegodd.