Mae dau gwmni cyhoeddi o Geredigion wedi prynu adran gyhoeddi Gwasg Gomer.
O fis Ebrill ymlaen Y Lolfa ac Atebol fydd yng ngofal ôl-restr y wasg sydd yn dyddio yn ôl i 1946.
Mae’r ôl restr yn cynnwys rhai o frandiau mwyaf hoffus plant Cymru gan gynnwys Sali Mali a llyfrau T Llew Jones.
Gomer oedd hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi gwaith rhai o lenorion amlycaf Cymru gan gynnwys Waldo, Islwyn Ffowc Ellis a Gwenallt.
Yn 2019 cyhoeddoedd Gwasg Gomer, sydd yn cyflogi 56 o weithwyr, eu bod yn cau’r adran gyhoeddi a chanolbwyntio yn llwyr ar argraffu.
Gwaddol cyhoeddi Gomer yn aros yng Ngheredigion
Golyga hyn y bydd gwaddol cyhoeddi Gwasg Gomer yn aros yng Ngheredigion.
“Mae diwydiant cyhoeddi gref yma yng Ngheredigion, sydd hefyd yn rhan bwysig o’r sector greadigol yng Nghymru,” meddai Owain Saunders-Jones, Cyfarwyddwr Atebol.
“Dyma sector sy’n cynnig cyfleoedd i bawb yn ogystal â chynnig cyflogaeth leol.
“Rydym yn falch ein bod wedi gallu cyd-weithio â Gomer a’r Lolfa i sicrhau parhad i drysorfa gyfoethog cyhoeddiadau Gomer i’r dyfodol, sy’n gymaint o ran o’n hetifeddiaeth ddiwylliannol fel Cymry”.
Ychwanegodd Garmon Gruffudd, Cyfarwyddwr Y Lolfa: “Mae’n fraint ac yn gyfrifoldeb aruthrol i ni gynnig cartref i restr o lyfrau mor eang, mor gyfoethog ac mor bwysig yn ddiwylliannol.
“Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddiogelu’r rhestr a sicrhau y bydd y wledd o lyfrau a gyhoeddwyd gan Gomer ar gael i’w mwynhau gan y cenedlaethau i ddod.”
Mynd yn ôl i’w gwreiddiau
Wrth ganolbwyntio ar yr adran argraffu bydd Gwasg Gomer yn mynd yn ôl i’w gwreiddiau.
Sefydlwyd y cwmni yn 1892 a hyd at 1945, pan brynwyd Gwasg Aberystwyth, cwmni argraffu yn unig oedd Gwasg Gomer.
Yn wreiddiol roedd yn siop gyffredinol, ond dros y blynyddoedd datblygodd i fod yn un o weisg mwyaf blaenllaw Cymru gan gyhoeddi llyfrau yn y Gymraeg a’r Saesneg i oedolion a phlant.
Eglurodd Jonathan Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasg Gomer ei bod nhw’n edrych ymlaen at barhau i gynhyrchu llyfrau o’r ansawdd uchaf i gwsmeriaid yng Nghymru, yn ogystal â rhai o sefydliadau mwyaf nodedig Prydain.
“Hoffwn ddiolch i’n holl awduron, golygyddion a dylunwyr, Cyngor Llyfrau Cymru a phawb am eu cefnogaeth dros y degawdau, ac ar yr un pryd dymuno pob llwyddiant i Atebol ac Y Lolfa yn y fenter yma,” meddai.