Fe dorrodd y newydd brynhawn heddiw fod adran gyhoeddi un o weisg annibynnol mwyaf Cymru, yn cau.
Mae golwg360 yn deall i weithwyr Gwasg Gomer yng Nghaerfyrddin gael clywed gan reolwr y cwmni, Jonathan Lewis, y bydd yr adain o’r cwmni sy’n gyfrifol am gyhoeddi llyfrau yn dod i ben, a’r pwyslais o hyn allan ar y gwaith argraffu.
“Y mae cwmni argraffu a chyhoeddi Gomer wedi penderfynu, ar ôl rhoddi ystyriaeth fanwl i gyfeiriad strategol y cwmni, i osod terfyn graddol ar ei adran gyhoeddi ac i ganolbwyntio ar yr adran argraffu ac felly sicrhau dyfodol y staff o 55,” meddai rheolwr y cwmni, Jonathan Lewis mewn datganiad.
“Yn y cyfamser, bydd Gomer yn parhau i weithio gydag awduron a Chyngor Llyfrau Cymru i gyhoeddi teitlau sydd eisoes ar y gweill, yn ogystal â gweithredu fel cyhoeddwr i’r 3,500 o deitlau sydd mewn print yn gyfredol, ac yn sicrhau bod breindaliadau yn cael eu talu i awduron yn ogystal ag adargraffu teitlau poblogaidd pan fo galw am hynny.”
Mae’r cyhoeddiad wedi ennyn ymateb trist a thrafodaeth ar y gwefannau cymdeithasol.
Yr wythnos ddiwethaf, roedd y wefan hon yn adrodd fel y mae Meirion Davies, Rheolwr Cyhoeddi y cwmni, wedi derbyn swydd gyda’r Gymdeithas Merlod a Chobiau Cymreig.
https://www.facebook.com/bethan.mair/posts/10158730785723362