Mae cyn-gapten tîm rygbi Cymru, Sam Warburton, yn galw am fwy o fesurau i ddiogelu chwaraewyr rygbi ar y cae – cyn i chwaraewr proffesiynol gael ei ladd mewn gêm.

Ymddeolodd Sam Warburton yn 30 oed yr haf diwethaf ar ôl ennill 79 o gapiau a dioddef anafiadau a arweiniodd at orfod cael llawfeddyginiaeth i’w wddw a’i ben-glin.

Wrth i gyfres o ddarnau allan o’i hunangofiant Open Side gael eu cyhoeddi ym mhapur newydd The Times, mae’n trafod ei bryderon am ddiogelwch yn y gêm gyfoes.

“Os na fydd rhywbeth yn cael ei wneud un fuan, yna fe fydd chwaraewr proffesiynol yn marw yn ystod gêm, o flaen camerâu teledu, a dim ond wedyn y bydd pobl yn mynnu bod camau’n cael eu cymryd,” meddai.

Er bod gwybodaeth am beryglon anafiadau i’r pen yn cynyddu, mae’r gêm ei hun wedi newid ac wedi dod yn llawer mwy corfforol, yn ôl Sam Warburton.

“Allwch chi ddim cael dau ddyn, 14 i 20 stôn yn rhedeg â’u holl nerth i’w gilydd a bod yn ddiogel,” meddai.