Dim ond £15m yw gwerth ecwiti maes awyr Caerdydd bellach.
Dyna a ddatgelwyd yn y Senedd heddiw.
Yn dilyn sesiwn Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau brynhawn heddiw, rhybuddiodd Darren Miller, Aelod Ceidwadol o’r Senedd mai: “Albatros am wddf trethdalwyr Cymru yw Maes Awyr Caerdydd”, a rhaid “gweithredu ar frys” cyn i ragor o arian gael ei lyncu ganddo.
Bu’r pwyllgor yn craffu ar waith y gweinidogion, Ken Skates, a Lee Waters, a thua diwedd y sesiwn codwyd cwestiynau am fuddsoddiad diweddar y Llywodraeth yn y Maes Awyr.
Yn ymateb i gwestiwn gan Darren Millar datgelodd uwch-swyddog o Lywodraeth Cymru mai £15m yw gwerth ecwiti’r maes awyr bellach. Mi dalodd y Llywodraeth £52m am y maes awyr yn 2013.
“Mae’n warth bod Llywodraeth Cymru yn methu a chyhoeddi gwybodaeth i gyfiawnhau ei swm diweddaraf o arian i’r Maes Awyr,” meddai.
“Mae grant £42.6m wedi ei roi, ac mae dyled £42.6m wedi ei dileu, a dw i’n gwrthod y ddadl bod gweinidogion methu cyhoeddi manylion oherwydd cyfrinachedd masnachol.
“Mae’n glir bod y penderfyniad i wladoli Maes Awyr Caerdydd wedi gosod albatros am wddf trethdalwyr Cymru. Heb weithredu brys bydd degau o filiynau yn rhagor yn cael ei golli.”
“Penbleth annifyr”
Yn ystod y sesiwn mi gynigodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gyfiawnhad am y buddsoddiad diweddaraf yn y maes awyr.
Dywedodd bod yna dri opsiwn: gwneud dim byd (“syniad nad oedd yn un craff”, yn ôl y gweinidog), ymyrryd rhyw ychydig (“a fyddai wedi rhoi gwerth gwael am arian”), neu’r cam a gymerwyd.
“Oes angen maes awyr ar Gymru – dyna yw’r cwestiwn yn ei hanod,” meddai Lee Waters. “Roedd hyn yn benbleth annifyr i ni. Pe na fuaswn wedi gweithredu byddai’r maes awyr wedi cau.
“A byddai hynny wedi dod â sgil effeithiau economaidd sylweddol – gan gynnwys 2,400 o swyddi uniongyrchol, ac ergyd sylweddol i GVA (Gross Value Added – gwerth nwyddau a gwasanaethau).
“Dyna’r penderfyniad a gymerwyd – i gynnal y buddsoddiad yr oeddem eisoes wedi’i roi yn y maes awyr.”
Cwestiynau ac atebion
Dywedodd Darren Millar bod ffafriaeth wedi’i dangos at y maes awyr, a bod y Llywodraeth wedi bod yn gyndyn i rannu manylion.
Yn ymateb i hynny dywedodd Lee Waters bod y Llywodraeth wedi rhoi help llaw i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus eraill hefyd – £165m at reilffyrdd, a £140m at fysys.
Ategodd y dirprwy weinidog ei fod yn hapus i rannu peth manylion ariannol â’r pwyllgor yn ysgrifenedig.