Mae Aelod o’r Senedd wedi ymddiheuro yn ddiffuant i’r gymuned draws “am y boen a’r niwed” y mae wedi ei achosi yn sgil ei sylwadau trawsffobig.

Daeth y datganiad gan Helen Mary Jones y prynhawn yma yn dilyn deiseb gyda dros 800 o enwau yn gofyn i Blaid Cymru ei diswyddo am ei sylwadau.

Er yr ymddiheuriad, nid ydi hi wedi cael ei diswyddo gan ei phlaid nac wedi ymddiswyddo.

Yn hytrach, dywed Ms Jones ei bod nawr am gau ei chyfrif trydar i ganolbwyntio ar ei hymdrechion i ennill sedd Llanelli yn yr etholiad ar gyfer Senedd Cymru fis Mai.

Ar ei chyfrif trydar, dywedodd yr AoS sy’n cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Rwyf wedi cymryd amser i fyfyrio a deall sut mae’r camau a’r sylwadau rwyf wedi’u gwneud a’u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn mannau eraill, gan gynnwys sylwadau hanesyddol sydd wedi cael wyneb newydd, wedi achosi llawer o frifo a niwed i lawer o bobl – dim mwy felly na’r gymuned draws.

“Rwy’n cydnabod yn benodol bod rhai o’r cyfrifon rwy’n eu dilyn a’u haildrydar wedi rhannu cynnwys sy’n annerbyniol ac yn drawsffobig ac rwy’n gresynu’n fawr at effaith hyn ar unigolion yn ogystal ag ar y gymuned drawsrywiol yn ehangach.

“Am hyn, rwy’n ymddiheuro’n ddiffuant i’r gymuned draws am y boen a’r niwed rwyf wedi’i achosi. Rwy’n dal i ddysgu.

“Rwy’n llwyr gefnogi ymrwymiad clir a diamwys Plaid Cymru i gydraddoldeb traws, gan gynnwys cefnogi diwygio’r GRA i gyflwyno proses symlach, ddad-feddygol yn seiliedig ar

“Rwy’n llwyr gefnogi ymrwymiad clir a diamwys Plaid Cymru i gydraddoldeb traws, gan gynnwys cefnogi diwygio’r GRA i gyflwyno proses symlach, ddad-feddygol yn seiliedig ar hunanddistyriediad (ac yn unol ag arfer gorau rhyngwladol) ochr yn ochr ag ymgyrchu i ddatganoli’r hawl i ddeddfu ar faterion cydraddoldeb, fel y bydd gan y Senedd y pŵer priodol i amddiffyn pobl draws ac eraill sy’n dioddef rhagfarn a gwahaniaethu.”

Roedd deiseb yn galw ar Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, i ddiswyddo Helen Mary Jones wedi denu dros 800 o lofnodau.

Mae’r Aelod o’r Senedd, sy’n cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru yn y Senedd, wedi bod mewn dŵr poeth yn ddiweddar ar ôl cael ei gorchymyn i ymddangos gerbron llys ar ôl rhannu trydariad ‘amhriodol’ am achos llofruddiaeth, cyn cael ei cheryddu yn y llys am y trydariad hwnnw.

Ar ben hynny, mae hi wedi cael ei chyhuddo o wneud sylwadau bychanol tuag at bobol a chymunedau trawsrywiol.

Mae trefnwyr y ddeiseb yn honni ei bod hi “wedi gwneud areithiau’n agored ac yn falch gan ddefnyddio terminoleg bychanol a chreulon tuag at bobol drawsrywiol a chymunedau trawsrywiol”.

“Pryderu am ba effaith y mae Helen Mary Jones yn ei chael ar Blaid Cymru”

Dywed datganiad sydd ynghlwm â’r ddeiseb: “Rydym yn pryderu am ba effaith y mae Helen Mary Jones yn ei chael ar Blaid Cymru, a’r effaith wenwynig y mae’n ei chael ar gymunedau LGBTQ ledled Cymru.

“Mae Helen Mary Jones wedi cael ei galluogi i wneud hyn dro ar ôl tro gan Blaid Cymru ac Adam Price, a hynny ar lefel bersonol a sefydliadol.

“Rydym yn poeni bod Plaid Cymru yn dewis troi degawdau o waith da ynghylch materion cydraddoldeb i ddieithrio pleidleiswyr ac aelodau o’r Blaid.

“Nid yw wedi dangos unrhyw edifeirwch am ei hymddygiad ac rydym yn poeni am yr amgylchedd y mae Plaid Cymru yn ei greu ar gyfer pobol drawsrywiol.”

Yn ddiweddar, roedd Dirprwy Faer Bangor, y Cynghorydd Owen J Hurcum, wedi penderfynu peidio sefyll dros Blaid Cymru yn etholiadau’r Senedd oherwydd na allent “sefyll dros blaid sy’n parhau i lwyfannu’r rhai sy’n hyrwyddo trawsffobia”.

Y prynhawn yma, cyn trydariad Helen Mary Jones, dywedodd Plaid Cymru wrth golwg360 “nad ydym am wneud sylw ar y mater”.