Mae Gwasg Gomer wedi cael ei chyhuddo o ddangos “diffyg parch” a “diffyg ymddiriedaeth yn eu staff” ar ôl i wyth aelod o staff gael gwybod y bydd rhaid iddyn nhw ymgeisio o’r newydd er mwyn cadw eu swyddi.
Mae hynny’n golygu y bydd pedwar o bobol yn colli’u gwaith.
Mae hysbyseb yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon yn gwahodd ceisiadau ar gyfer pedair swydd – Golygydd Cymraeg; Golygydd Saesneg; Swyddog Hyrwyddo ac Ymgyrchoedd; ynghyd â Swyddog Marchnata Digidol.
Mae yna awgrym cryf bod y cwmni’n symud rhai o’r swyddi o Landysul i Gaerfyrddin, gan ofyn i ymgeiswyr ‘Hoffech chi sialens newydd yng Nghaerfyrddin?’
Wrth i gyfnod ymgynghori ddod i ben, mae wyth aelod o staff wedi derbyn llythyrau yr wythnos hon yn dweud na fydd eu swyddi’n parhau o dan y drefn newydd, ond bod croeso iddyn nhw ymgeisio am unrhyw swyddi newydd.
Ond mae anhapusrwydd fod y swyddi’n cael eu hysbysebu’n allanol.
‘Pobol o galibr uchel iawn’ wedi’u heffeithio
Dywedodd un unigolyn, sy’n dymuno aros yn ddi-enw: “Fel arfer pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd o fewn cwmnïau, mae’r cwmni yn hysbysebu yn fewnol i ddechrau i drïo bod yn deg â staff sydd wedi bod yno am sbel.
“Ond mae Gomer wedi penderfynu peidio â gwneud hynny a mynd yn syth yn allanol. Mae hwnna’n beth od achos mae’r staff sydd yno wedi bod yno am sbel, ac mae lot o brofiad.
“Mae pobol o galibr uchel iawn yno, pobol hynod ddawnus, ond mae’r cwmni wedi anwybyddu hynny’n llwyr a mynd yn syth yn allanol.”
Golygyddion
Ymhlith y golygyddion sy’n cael eu cyflogi gan Wasg Gomer mae Ceri Wyn Jones ac Elinor Wyn Reynolds.
Ychwanegodd y ffynhonnell ddi-enw: “Mae Gomer wedi bod yn cynhyrchu llyfrau o ansawdd uchel ac wedi cael clod ac ennill gwobrau, ac mae hwnna wedi cael ei anwybyddu’n llwyr.
“Maen nhw’n colli sgiliau wrth wneud hynny, a dyw e ddim yn beth da i’r diwylliant yn gyfan gwbwl yn sicr… colli sgiliau a pobol sy’n brofiadol iawn yn y maes a phobol o’r safon uchaf yn y diwylliant.
“Mae’r cwmni’n cefnu arnyn nhw ac yn fodlon damshel drostyn nhw yn gyfangwbl a mynd y tu allan.”
Llythyr
Yn y llythyr at y staff, sydd wedi dod i law golwg360, dywed Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasg Gomer, Jonathan Lewis:
“Mae gennyt yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i ddileu dy swydd. Os wyt yn dymuno apelio, gofynnir i ti ysgrifennu ataf o fewn 7 diwrnod gwaith o ddyddiad y llythr hwn, gan nodi dy resymau dros apelio.
“Byddwn wedyn yn gwneud trefniadau ar gyfer cynnal gwrandawiad apêl.”
Cwynion
Eto, yn ôl y ffynhonnell ddi-enw, mae’r cyfrifoldeb dros gomisiynu wedi cael ei roi i’r Pennaeth Cyhoeddi newydd, sydd heb brofiad o gomisiynu ym maes llyfrau.
“Mae’n anhygoel fod rhywun yn gallu cael swydd heb fynd amdani. Er bod profiad ganddyn nhw mewn maes arall, does dim profiad gyda nhw ar gyfer y swydd hon. Mae angen sgiliau penodol.
“Ac mae’r person hwn wedi bod yn rhan o’r broses ymgynghori hefyd.
“Dw i’n teimlo i’r byw dros bobol, a dw i’n gwybod faint o gyfraniad maen nhw’n gwneud. R’yn ni’n sôn yma am bobol fel y Prifardd Ceri Wyn Jones. Does dim gwell i’w gael yng Nghymru.
“Mae pobol yn teimlo’u bod nhw wedi cael eu bradychu. Bydd y cwmni’n dweud eu bod nhw’n gwneud colled, ond mae’n fwy cymhleth na dim ond colledion.
“Maen nhw’n datblygu’r ochr argraffu ar draul yr ochr gyhoeddi, achos dyna lle mae’r pres. Mae’r peth yn drewi.”
Hanes y cwmni
Mab i siopwr oedd John David Lewis, sylfaenydd Gwasg Gomer, ond roedd ei fryd ar gadw siop lyfrau er pan oedd yn blentyn.
Pan fu farw ei dad yn 1889, fe ddechreuodd J D Lewis gadw llyfrau yn y siop, ac fe brynodd gyfarpar am y tro cyntaf yn 1892 er mwyn cael sefydlu’r wasg.
Yn fuan wedyn, cafodd yr argraffwr W J Jones o Ynys Môn – neu Jones y Printer – ei benodi ac fe aeth y cwmni o nerth i nerth. Daw’r enw ‘Gomer’ o hoffter J D Lewis o waith y bardd Gomer, neu’r Parchedig Joseph Harris.
Cwmni argraffu’n unig oedd y cwmni hyd at 1945, ond fe brynodd y cwmni Wasg Aberystwyth y flwyddyn honno, gan ddatblygu’r elfennau cyhoeddi.
Roedd J.D. Lewis wedi prynu peiriannau argraffu yn ystod Dirwasgiad 1926, gan ddewis peiriannau monoteip yn hytrach na linoteip oedd yn cael ei ddefnyddio gan bapurau newydd y cyfnod, ac a gafodd ei ddefnyddio hyd at y 1970au, adeg dyfodiad cyfarpar technolegol newydd.
Symudodd y cwmni i adeiladau newydd ar gyrion Llandysul yn 2004, lle maen nhw wedi bod yn cyhoeddi ac yn argraffu, a phedwaredd cenhedlaeth y teulu sydd bellach yng ngofal y cwmni, sef Jonathan Lewis.