Fe fydd blas ‘Phantom of the Opera’ ar Ŵyl Gymraeg Ystradgynlais eleni, gyda’r newyddion mai seren y West End, Peter Karrie fydd prif atyniad y penwythnos o ddigwyddiadau sy’n dechrau ar Chwefror 17.

Elusen ‘Swyno’r Sêr’ sy’n trefnu’r digwyddiad o dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerdd Côr Cefnogwyr y Gweilch, Aled Hopton, ac yntau’n un o frodorion yr ardal.

Colli ei dad o ganlyniad i ganser pan oedd e’n 11 oed oedd wedi ei ysbrydoli i ddechrau codi arian ar gyfer elusennau canser, gan gynnwys Tŷ Hafan.

A dyna fan cychwyn digwyddiad Swyno’r Sêr, a ddechreuodd fel cyngerdd blynyddol yn 2009.

Yn yr amser hwnnw, mae’r digwyddiadau wedi llwyddo i godi £18,750 at ymchwil canser.

Wrth egluro’r enw Swyno’r Sêr, dywedodd Aled Hopton wrth Golwg360: “Yr ystyr yw bo ni’n canu i’r sêr yn y nen, neu’r bobol yn ein calonnau ni sy ddim gyda ni rhagor. O’n i ddim eisiau colli hwnna’n gyfangwbl, felly enw’r sefydliad nawr yw Swyno’r Sêr.”

Dwy noson a diwrnod o ddigwyddiadau

Dywedodd Aled Hopton wrth Golwg360: “Sbardun yr holl beth oedd ‘mod i’n anffodus wedi colli ‘nhad yn 11 oed. Ni’n mynd nôl nawr 18 o flynyddoedd.

“Wedi i rai blynyddoedd fynd heibio, o’n i’n teimlo bo fi moyn gwneud rhywbeth i godi arian achos bu Dad farw o ganser.

“O’n i eisiau gwneud rhywbeth i godi arian at ymchwil canser. Wrth fynd ati i wneud, wnaeth cyn-athro i fi sôn am elusen Tŷ Hafan, sy’n bwysig iawn i Gymru, ond sy ddim yn derbyn unrhyw arian cyhoeddus.

“Felly fe benderfynon ni fod yr holl beth i godi arian. Ers 2009, ry’n ni wedi bod yn cynnal gweithgarwch bob yn ail flwyddyn ac erbyn hyn ry’n ni wedi codi £18,750 a gobeithio gyda’r wyl yma y gallwn ni fynd yn agos at £25,000.

“Dechreuon ni fel criw bach o bedwar neu bump o gwmpas y bwrdd yn rhoi cyngerdd at ei gilydd.

“Ond dros y blynydde, ry’n ni wedi ehangu i fod yn ŵyl benwythnos ac mae’r tîm hefyd wedi ehangu i fod yn 18 i 20 o bobol, rhwng y bobol sy’n rhoi’r artistiaid at ei gilydd, gwneud y stwff marchnata, cynhyrchu set ac yn y blaen.”

Hybu’r Gymraeg a chodi arian

Dros gyfnod o ddeuddydd, fe fydd Neuadd Les Ystradgynlais yn cynnal noson cabaret ar nos Wener, Chwefror 17 sy’n serennu Arwel Gildas, Ieu Piano o Gaerdydd, y digrifwr lleol Gareth Thomas, y gantores leol Bronwen Lewis a’r digrifwr o Abertawe, Steffan Alun.

Uchafbwynt y noson fydd perfformiad gan Dri Tenor Cymru sydd, yn ôl Aled Hopton, wedi ennyn diddordeb o bob cwr o Gymru ers i’r ŵyl gadarnhau eu bod nhw’n perfformio.

“Dechreuon ni gyda’r bwriad o hybu’r Gymraeg yn Ystradgynlais a chodi arian at elusennau, ond ry’n ni’n gobeithio, gyda’r math o artistiaid sydd gyda ni, y gallwn ni ddenu pobol o’r ardal a thu hwnt.

“Mae Tri Tenor Cymru’n adnabyddus trwy Gymru gyfan, os nad tu allan hefyd. Ry’n ni wedi bod mewn cyswllt â phobol o’r tu allan i Ystradgynlais sydd eisiau dod achos bo nhw yma.”

Peter Karrie

Ar nos Sadwrn, fe fydd Côr Cefnogwyr y Gweilch, o dan arweiniad Aled Hopton ei hun, yn cefnogi Peter Karrie yn ystod Gala Sioeau Cerdd, a fydd yn cael ei chyflwyno gan yr actores a’r gantores Toni Caroll.

Ychwanegodd Aled Hopton: “Peter Karrie, seren ‘Phantom of the Opera’ yw’r prif eitem ar gyfer y noson sioeau cerdd, a Toni Caroll sy’n cyflwyno’r noson.

“Ac mae gyda ni artistiaid ifainc fel Katy Donovan a Lauren Mia Jones, merched lleol, a Sean Lewis, boi lleol o Glanrhyd.

“Ac mae Katy Treharne wedi chwarae rhan Christine yn y West End hefyd.

“Mae gyda ni Gôr Cefnogwyr y Gweilch a Chôr Unedig Plant Cymru, plant ysgol Dolau a Dyffryn y Glowyr.”

Crefftau

Yn ôl Aled Hopton, fyddai hi ddim yn deg galw’r digwyddiad yn ŵyl oni bai bod rhywbeth ychwanegol i gyngherddau’n cael ei gynnal.

O ganlyniad, mae ffair grefftau’n cael ei chynnal ar y prynhawn dydd Sadwrn.

“Pan wnaethon ni ehangu, o’dd e’n bwysig cynnig rhywbeth ychwanegol i’r cyngherddau, nid jyst dwy noson o gyngherddau. Dyw e ddim yn deg galw hwnna’n ŵyl.

“Ond nawr mae gyda ni’r elfen ychwanegol yna o’r ffair grefftau a bwyd.

“Felly beth y’n ni wedi gwneud yw gwahodd busnesau o Gymru gyfan i werthu eu stwff nhw yn y ffair. Mae amrywiaeth eang iawn o gynnyrch lleol yn mynd i fod ar gael.”

Mae tocynnau ar gael drwy ffonio Neuadd Les Ystradgynlais ar 01639 843163, neu drwy fynd i’r wefan. Mae rhagor o wybodaeth am y penwythnos ar gael ar Facebook a Twitter.