Fe fu cynnydd yn y nifer sy’n gwrando ar Radio Cymru yn ystod tri mis ola’ 2016.
Mae ystadegau RAJAR yn dangos mai 114,000 o bobol yr wythnos fu’n tiwnio i mewn i’r donfedd yn ystod y tri mis hyd at Ragfyr 18, 2016. Mae hynny 13,000 yn fwy na’r nifer yn yr adroddiad cynt ar gyfer misoedd Gorffennaf Awst a Medi.
Roedd ffigwr trydydd chwarter 2016 yr isaf ers 2000.
Mae’r ystadegau hyn yn cyfeirio at y cyfnod cyn lansio arbrawf Radio Cymru Mwy, ar radio DAB ac ar y we, er mwyn ceisio denu gwrandawyr iau a’r rheiny sydd eisiau clywed mwy o gerddoriaeth a llai o siarad.
Rhwng Hydref a Rhagfyr 2016, roedd nifer gwrandawyr Radio Wales, yn ol RAJAR, yn 375,000 yr wythnos – cynnydd o 35,000 o’r ffigwr blaenorol o 340,000.