Mae sianel deledu Wyddeleg wedi anfon llythyr at un o weinidogion Llywodraeth Cymru, yn dweud pam y dylai pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin dderbyn £6m o arian cyhoeddus.
Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Economi, Ken Skates, mae TG4 yn tanlinellu faint o gyfraniad y mae cyrff cyhoeddus yn ei wneud i lwyddiant darlledu Gwyddeleg yn Iwerddon, ac mae’n awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried buddsoddi arian yn adeilad Yr Egin.
Mae’r llythyr yn pwysleisio bod “cydweithio agos rhwng darlledwyr ac awdurdodau lleol” wedi dod â “manteision ieithyddol, diwylliannol ac economaidd” i orllewin Iwerddon. A thrwy gymharu gorllewin Iwerddon a gorllewin Cymru, mae’n dweud bod “effaith economaidd a diwylliannol amlwg” i ddatblygiadau fel Yr Egin.
Mae’n dweud hefyd bod lleoli pencadlys TG4 yng ngorllewin Iwerddon yn bwysig, yn ogystal â’r ffaith na fyddai’r sianel yn bod oni bai am “bartneriaeth agos â chyrff cyhoeddus”.
Ariannu’r adeilad
Mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant wedi gofyn am £6m gan Lywodraeth Cymru i godi’r adeilad ar y coleg, ond mae ymgynghorwyr wedi dadlau mewn adroddiad nad oes “sail” i roi arian cyhoeddus i Gaerfyrddin pan mae prosiectau eraill yn ymwneud â’r byd darlledu a’r celfyddydau eisoes wedi cael arian yn ardal Abertawe.
Fe gyhoeddodd Ken Skates ddydd Mawrth y byddai penderfyniad yn cael ei gwneud ar Yr Egin “cyn diwedd mis Chwefror”.