Mae angen sefydlu rhwydwaith o glinigau arbenigol ledled Cymru er mwyn trin y rheiny sydd yn dioddef o Covid hir (“long Covid“), yn ôl grŵp ymgyrchu.
Cafodd Long Covid Wales ei sefydlu gan y bobol hynny sydd yn dal i ddioddef effeithiau hirdymor y coronafeirws.
Ac yn ystod sesiwn emosiynol fore heddiw (dydd Mercher, Mawrth 10) gydag un o bwyllgorau’r Senedd, bu aelodau’r grŵp yn rhannu eu profiadau ag Aelodau o’r Senedd.
Ymhlith y cyfranwyr roedd Georgia Walby, a bu iddi achub ar y cyfle i bwysleisio’r angen am glinigau penodol ar gyfer dioddefwyr covid hir.
“Mae angen y clinigau yma oherwydd does dim gan bobol yr egni na’r adnoddau i fynd yn ôl ac ymlaen i’w meddyg teulu a chael eu cyfeirio at wasanaethau gwahanol,” meddai.
“Mae angen un lle arnyn nhw i gael eu trin. Os nad yw meddyg teulu yn gwrando arnoch, alla’ i ddweud o brofiad personol, r’ych chi jest yn rhoi’r gorau iddi.
“Rydych yn rhoi’r gorau i ffonio oherwydd mae’n sugno gormod o egni. Mae’r alwad ffôn jest yn troi’n frwydr.”
Yn eu tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor Iechyd, mae’r grŵp yn dweud bod angen “clinigau Covid hir arbenigol tebyg i’r rheiny sydd wedi’u cyflwyno yn Lloegr”.
Ategodd Georgia Walby y byddai arbenigwyr iechyd hefyd yn elwa o’r clinigau yma, ac yn ei chael hi’n haws rhannu eu canfyddiadau ac arbenigedd.
Mae Vaughan Gething y gweinidog iechyd bellach wedi amlinellu safiad y llywodraeth ar y mater.
Tystiolaeth emosiynol gan gleifion
Roedd sawl un o’r cyfranwyr yn hynod emosiynol wrth rannu eu profiadau o Covid hir a’r pwyllgor.
Dywedodd Georgia Walby eu bod wedi profi rhithweledigaethau (hallucinations), wedi cael trafferth yn llyncu, blinder, pen tost, trafferth yn cerdded, “brain fog”, ymhlith sawl symptom arall.
Ymhlith y cyfranwyr a oedd mwyaf dan deimlad oedd Dr Ian Frayling.
Dywedodd fod Covid hir yn “dinistrio’r enaid (soul destroying)” a’i fod wedi cael cyfnodau tywyll o hypoglycaemia (pan mae siwgr y gwaed yn rhy isel).
“Dyma un o’r pethau sydd wedi fy nghynhyrfu fwyaf,” meddai. “Bellach, dw i wedi dysgu i beidio mynd i’r man yma, ond ges i sawl pwl o hypoglycaemia ar y cychwyn.
“Rydych yn drysu, yn mynd yn grac, yn cynhyrfu (disturbed). Dw i wedi troi’n gas â phobol sydd yn agos i mi. Dw i wir yn difaru hynny.”
Yr hawl i iawndal?
Ar un adeg yn ystod y sesiwn holwyd cwestiwn am Covid hir a’r byd gwaith.
Mae yna alwadau i drin Covid hir yn ‘haint yn y gweithle’.
Byddai’r fath gam yn golygu bod modd i weithwyr rheng flaen (y rheiny sydd â covid hir) hawlio iawndal.
Soniodd un o’r cyfranwyr, Leanne Lewis, am ei phrofiadau hi yn nyrs.
Bu iddi dal Covid pan oedd hi’n gweithio mewn ysbyty, ac mae hi’n dal heb ddychwelyd i’r gwaith.
“Dw i eisiau mynd yn ôl i weithio ond yn realistig sa i’n gwybod os yw hynny’n bosib ar y funud,” meddai. “Felly, ydw, dw i yn galw bod hyn yn cael ei ystyried yn occupational illness.”
Patholegydd yw Dr Ian Frayling a bu iddo atseinio’r farn honno.
Dywedodd mai “haint diwydiannol” yw covid hir, a chymharodd y sefyllfa â chyflyrau iechyd glowyr.
“Pe bai rhywun lawr yn y pyllau glo wedi llyncu llwch silica … ac y bydden nhw wedi profi goblygiadau hirdymor i’r achos acíwt hwnnw, does dim amheuaeth y byddai hynny’n cael ei drin yn salwch diwydiannol,” meddai.