Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod £50m ychwanegol yn cael ei neilltuo i fyrddau iechyd er mwyn iddyn nhw barhau â’r gwaith o olrhain cysylltiadau Covid-19 dros yr haf.

Dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifenydd Iechyd Cymru, fod y cyllid yn ychwanegol i’r £10m a gafodd ei gytuno eisoes, ac y bydd yn cael ei ddefnyddio i gadw’r gweithlu olrhain cysylltiadau presennol tan ddiwedd mis Medi.

Mae e hefyd wedi cyhoeddi y bydd pobol sydd mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf positif, ac sy’n hunanynysu, yn awr yn cael cynnig prawf coronafeirws.

Dywed fod timau olrhain cysylltiadau yng Nghymru, erbyn diwedd mis Chwefror, wedi cyrraedd 167,226 (99.6%) o’r achosion positif a oedd yn gymwys i gael cyswllt dilynol, ynghyd â 382,494 (95%) o’u cysylltiadau agos, a’u bod nhw wedi cynghori unigolion ynghylch a fyddai’n rhaid iddyn nhw hunanysu.

“Er ein bod ni wedi gweld ymateb da i’r cyfyngiadau symud presennol o safbwynt niferoedd yr achosion newydd, mae cryn ansicrwydd pa lwybr y bydd y pandemig yn ei ddilyn sy’n golygu ei bod yn debygol iawn y bydd angen inni barhau i weithredu ymateb olrhain cysylltiadau sylweddol yn y dyfodol agos,” meddai Vaughan Gething.

“Hyd yn oed wrth i’r rhaglen frechu gael ei chyflwyno, bydd profi ac olrhain yn parhau i fod yn rhan hanfodol o’n dull gweithredu wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio ac er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw amrywiolion newydd wrth i bobol gyrraedd o dramor.”