Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd busnesau manwerthu, lletygarwch a busnesau eraill y mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio arnyn nhw bellach yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan, tan ddiwedd mis Mehefin.

Dywed Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, Trafnidiaeth a gogledd Cymru, y bydd y moratoriwm yn erbyn fforffedu am beidio â thalu rhent, a oedd fod i ddod i ben ar Fawrth 31, bellach yn cael ei ymestyn hyd at Fehefin 30.

Ond dylai busnesau sy’n dal i allu talu rhent barhau i wneud hynny, meddai.

Ychwanega y bydd hyn yn helpu i leddfu’r baich ar wahanol sectorau, gan gynnwys manwerthu a lletygarwch, mewn cyfnod sy’n parhau i fod yn eithriadol o heriol.

Ers dechrau’r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod mwy na £1.9bn wedi’i ddyrannu i fusnesau ledled Cymru.

“Parhau i wneud popeth o fewn ein gallu”

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi rhoi pwysau di-ben-draw ar ein cwmnïau a’n pobol wrth i ni ddelio â’r coronafeirws a dyna pam rydym wedi symud yn gyflym i gefnogi’r gymuned fusnes drwy’r pandemig gyda phecyn gwerth dros £2bn,” meddai Ken Skates.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw am ymestyn mesurau i atal fforffedu am beidio â thalu rhent yn adeiladu ar hynny ac mae’n hanfodol i ddiogelu busnesau rhag cael eu troi allan a sicrhau swyddi a bywoliaeth dros y misoedd nesaf.

“Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu drwy’r cyfnod hynod heriol hwn.”