Mae Brenhines Loegr, Elizabeth II, wedi ymateb mewn datganiad i honiadau tanllyd Harry a Meghan am y teulu brenhinol.

Yn ystod cyfweliad ag Oprah Winfrey, a gafodd ei ddarlledu ar ITV nos Lun (Mawrth 8), fe wnaeth y cwpl ddarlunio’r teulu brenhinol fel sefydliad di-hid a hiliol oedd wedi methu â’u cefnogi, yn bennaf wrth i Meghan fethu ag ymdopi â straen meddyliol.

Yn ystod y cyfweliad, datgelodd ei bod hi wedi ystyried lladd ei hun ac nad oedd hi wedi cael unrhyw gefnogaeth gan staff y teulu brenhinol, gan gynnwys yr adran adnoddau dynol.

Roedd Oprah Winfrey yn syfrdan pan ddatgelodd y cwpl fod aelod o’r teulu – ond nid y Frenhines na Dug Caeredin – wedi gwneud sylw cyn i’w mab Archie gael ei eni am ba mor dywyll fyddai ei groen.

Roedd sôn hefyd am ffrae rhwng Harry a’i dad Charles, Tywysog Cymru, a honiadau bod y teulu wedi cefnu ar Ddug Sussex yn ariannol wrth iddo baratoi i fynd â’i deulu i Ogledd America.

Ymateb y Palas

Yn ôl datganiad gan y Frenhines drwy law Palas Buckingham, mae’r teulu brenhinol yn trin yr honiadau’n “ddifrifol iawn”.

Ond maen nhw’n dweud bod yna wahaniaeth o ran “rhai atgofion” ynghylch digwyddiadau honedig.

Mae’r Frenhines, serch hynny, wedi cydnabod y cyfnod “heriol” gafodd ei hŵyr a’i wraig pan oedden nhw’n aelodau gweithgar o’r teulu brenhinol yn cyflawni dyletswyddau sydd bellach wedi cael eu tynnu oddi arnyn nhw.

Mae lle i gredu bod y datganiad yn ymgais i geisio adfer y berthynas rhwng Harry a gweddill y teulu.

“Mae’r teulu cyfan yn drist o ddysgu graddau llawn pa mor heriol fu’r blynyddoedd diwethaf i Harry a Meghan,” meddai’r datganiad.

“Mae’r materion a gafodd eu codi, yn enwedig ynghylch hil, yn destun pryder.

“Tra bod rhai atgofion yn amrywio, maen nhw’n cael eu cymryd yn ddifrifol iawn ac fe fydd y teulu’n mynd i’r afael â nhw’n breifat.

“Bydd Harry, Meghan ac Archie bob amser yn aelodau o’r teulu sy’n cael eu caru’n fawr.”

Canlyniadau’r ffrae

Mae’r ffrae yn debygol o godi nifer o gwestiynau am natur a dyfodol y teulu brenhinol, yn ogystal â’u henw da ym mhob cwr o’r byd.

Roedd Charles i’w weld yn chwerthin yn nerfus pan gafodd ei holi gan newyddiadurwr am y cyfweliad.

Ac mae’r Evening Standard yn adrodd bod ffigwr blaenllaw yn y teulu brenhinol wedi awgrymu bod Charles “wedi cael siom” ynghylch honiadau ei fab a’i wraig yn ystod y cyfweliad.

Cafodd datganiad y Palas ei gyhoeddi neithiwr (nos Fawrth, Mawrth 9), bron i 36 awr ar ôl i’r cyfweliad gael ei ddarlledu yn yr Unol Daleithiau.

Mae lle i gredu bod yr oedi wedi bod yn gyfle i’r teulu brenhinol gynnal trafodaethau cyn i’r cyfweliad gael ei ddarlledu gan ITV a chyn cyhoeddi ymateb swyddogol i’r honiadau, er bod y teulu’n awyddus i drafod y mater y tu ôl i ddrysau caëedig.

Piers Morgan yn pwdu

Yn y cyfamser, mae Piers Morgan wedi gadael ei swydd fel cyflwynydd ‘Good Morning Britain’ ar ITV.

Fe gafodd e ffrae ag un o’i gyd-gyflwynwyr, Alex Beresford, ar yr awyr am y cyfweliad ar ôl iddo fe ddweud nad oedd e’n “credu’r un gair” o honiadau Meghan am ei chyflwr iechyd meddwl.

Fe gerddodd e allan o’r stiwdio yn ystod y rhaglen, gan ddychwelyd yn ddiweddarach.

Ac fe fydd Piers Morgan hefyd yn destun ymchwiliad gan Ofcom ar ôl iddyn nhw dderbyn 41,000 o gwynion am ei sylwadau am iechyd meddwl yn ystod y ffrae.