Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y gwaharddiad ar droi pobol allan o dai y tu hwnt i Fawrth 31.

Dywed y Blaid ei bod yn cydnabod fod cyfraith gafodd ei phasio yn y Senedd ar Chwefror 23 yn rhoi mwy o sicrwydd i denantiaid, ond nad yw’n dod i rym tan ‘gwanwyn 2022’.

Nid yw’n glir beth sy’n digwydd i denantiaid preifat yn y cyfamser ond o dan y rheoliadau presennol, bydd y gwaharddiad ar droi allan yn dod i ben ar Fawrth 31, rhybuddia’r Blaid.

Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu’r rheoliadau hyn o leiaf bob tair wythnos, gyda’r adolygiad nesaf yn dod ar Fawrth 11.

“Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r cwmwl sy’n uwchben y tenantiaid”

“Mae oedi cyn cyhoeddi estyniad i amddiffyn troi allan yn ymosodiad ar sefydlogrwydd tenantiaid preifat,” meddai Delyth Jewell, llefarydd tai Plaid Cymru.

“Ar un adeg, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn awyddus i bwysleieio wrthym ei bod yn annhebygol y bydd cyfyngiadau’n cael eu newid yn sylweddol tan y Pasg, ac eto mewn un arall, yn methu ag ymestyn diogelwch i denantiaid preifat, sy’n ofni cael eu troi allan yng nghanol pandemig.

“Mae pob gohiriad graddol yng ngallu landlord i droi allan yn ymestyn pryder tenantiaid, gan nad oes ganddynt gyfnod hir o amser lle gallant deimlo’n sicr yn eu cartrefi.

“Gyda dim ond un cyfnod adolygu rheoleiddio arall cyn diwedd mis Mawrth, mae dull munud olaf Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r cwmwl sy’n uwchben y tenantiaid hyn.”