Mae plismon gyda Heddlu Llundain a dynes wedi cael eu harestio mewn perthynas â diflaniad dynes 33 oed o Lundain union wythnos yn ôl.
Does neb wedi gweld Sarah Everard ers iddi adael cartref ffrind yn ardal Clapham am oddeutu 9 o’r gloch ar nos Fercher, Mawrth 3.
Cafodd y plismon ei arestio yng Nghaint, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa yn Llundain.
Mae Heddlu Llundain yn dweud bod ei arestio’n “ddatblygiad difrifol ac arwyddocaol” a bod y ffaith ei fod yn blismon “yn syfrdanol ac yn destun pryder difrifol”.
Cafodd dynes ei harestio yn yr un lle ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, ac mae hi hefyd yn cael ei holi yn y ddalfa.
Mae’r Gyfarwyddiaeth Safonau Proffesiynol yn ymwybodol, yn ôl yr heddlu, sy’n dal i apelio am wybodaeth.
Cefndir
Mae lle i gredu bod Sarah Everard wedi bod yn cerdded trwy Clapham Common wrth fynd adref i Brixton, sy’n daith o ryw 50 munud ar droed.
Cafodd ei gweld ddiwethaf ar gamera yn cerdded ar hyd ffordd A205 tuag at Tulse Hill am oddeutu 9.30yh.
Mae’r heddlu bellach yn canolbwyntio ar yr ardal honno.
Yn ôl Heddlu Llundain, maen nhw wedi derbyn mwy na 120 o alwadau gan y cyhoedd, ac wedi ymweld â 750 o gartrefi fel rhan o’r ymchwiliad.