Mae Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys yn dweud bod lle i edrych o’r newydd ar amgylchiadau marwolaethau brawd a chwaer yn y Preselau 45 mlynedd yn ôl.
Daw hyn yn dilyn darlledu’r ddrama The Pembrokeshire Murders yn ddiweddar, ac ar ôl i bapur bro Clebran gyflwyno cais rhyddid gwybodaeth i Dafydd Llywelyn.
Bu farw Gruff a Patti Thomas yn eu cartref yn Ffynnon Samson, Llangolman ger Maenclochog fis Rhagfyr 1976.
Ar sail adroddiad yr heddlu, daeth y crwner i’r casgliad ar y pryd fod y brawd 73 oed wedi llofruddio ei chwaer 70 oed cyn rhoi ei hun ar dân, ac nad oedd neb arall ynghlwm wrth y digwyddiad.
Ond doedd eu cymdogion ddim yn credu y byddai dyn oedd yn dioddef o wynegon, fel yr oedd Gruff Thomas, wedi gallu cyflawni’r fath drosedd.
Cafodd John Cooper ei garcharu am oes am ladd dau gwpl yn Sir Benfro ac mae trigolion lleol o’r farn y gallai’r datblygiadau fforensgig arweiniodd at ei garcharu helpu’r heddlu yn yr achos hwn hefyd.
Yn 2011, cafwyd John Cooper yn euog o lofruddio brawd a chwaer yn Scoveston yn 1985 a gŵr a gwraig ar Lwybr yr Arfordir yn 1989.
Roedd yna debygrwydd yn amgylchiadau’r troseddau hynny a’r hyn a ddigwyddodd yn Ffynnon Samson.
Llythyr
Wrth ymateb i gais Clebran, dywedodd Dafydd Llywelyn mewn llythyr fod yna le “i ystyried angen am ail-edrych ar yr achos”.
Dywed ei fod yn bwriadu trafod yr achos ag uwch swyddogion yr heddlu.
Daw hyn ar ôl i Dr Clive Sims, sy’n seicolegydd fforensig, ddweud bod dyfarniad y crwner yn anniogel ac mae’r gwyddonydd fforensig, Angela Gallop, o’r farn y byddai archwilio tystiolaeth gan ddefnyddio dulliau cyfoes yn canfod gwybodaeth berthnasol.
Ychwanegodd Dafydd Llewelyn yn ei lythyr ei bod yn fater o ganfod a oes deunyddiau fforensig yn dal ar gael sydd yn debyg o ddatgelu unrhyw dystiolaeth bellach.
“Yn ddiweddar, derbyniais gopi o adroddiad y crwner ar y pryd, a gallaf ddeall pam fod gan drigolion bryderon fod rhai cwestiynau heb eu hateb, ac felly bod lle i ystyried angen am ail edrych ar yr achos,” meddai’r Comisiynydd yn ei lythyr.
“Y cwestiwn sydd angen ei ystyried wrth gwrs yw, a oes deunyddiau fforensig ar gael sydd yn debygol o ddatgelu unrhyw dystiolaeth pellach?
“Gan mai mater i’r Llu yw hi i ystyried penderfyniadau o’r fath, yn hytrach na’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, mae hi’n fwriad gen i i drafod ymhellach gydag Uwch Swyddogion Heddu Dyfed-Powys.”