Mae cwest wedi clywed y byddai cartref nyrsio lle bu farw saith o bobol yn sgil gofal gwael rhwng 2003 a 2005 wedi cau pe bai’r achosion hynny wedi digwydd heddiw.

Wrth roi tystiolaeth i gwest chwech ohonyn nhw, dywedodd Margaret Rooney, dirprwy brif arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru, fod gan arolygwyr fwy o bwerau erbyn hyn nag yr oedd ganddyn nhw adeg y marwolaethau yng nghartref Brithdir yn Nhredegar Newydd ddau ddegawd yn ôl.

Mae’r cwest yn ystyried marwolaethau Stanley James (89), June Hamer (71), Stanley Bradford (76), Evelyn Jones (87), Edith Evans (85) a William Hickman (71), a bydd marwolaeth Matthew Higgins (86) dan ystyriaeth ar ddiwedd y cwest hwn.

Roedd nifer o drigolion oedrannus wedi dadhydradu, ac roedden nhw’n dioddef o ddiffyg maeth a briwiau gwasgedd.

Roedd y cartref dan berchnogaeth Dr Prana Das ac roedd yn rhan o grŵp gofal Puretruce, oedd yn berchen ar ddwsin o gartrefi eraill yn y de.

Er bod problemau wedi bod o ran y cwmni ers 2002, chafodd y cartref mo’i gau tan 2006 er i Gyngor Bwrdeistref Sir Caerffili osod a dileu embargo ar leoliadau preswyl yn 2004, a chafodd embargo pellach ei osod yn 2005.

Mae cyfreithiwr ar ran tri o’r teuluoedd yn dweud bod hynny’n “syfrdanol”.

Holi Margaret Rooney

Dywedodd Margaret Rooney ei bod hi bellach wedi ceisio edrych ar yr achosion “drwy’r lens sydd gen i nawr” a’i bod yn anodd ganddi gredu “y byddai cartref fel hwn yn goroesi cyhyd”.

Mae’n dweud ei bod hi’n gallu gweld “rhwystrau” oedd yn bod wrth gynnal arolwg o’r cartref.

Cafodd ei holi sut y gallai Dr Prana Das fod wedi cael ei gofrestru ar gyfer cartref Brithdir.

“Mae’n anodd iawn i fi ateb y cwestiwn hwnnw heb fy mod i wedi bod yno,” meddai, cyn ychwanegu bod arolygwyr “wedi meddwl yn ddwys” ac “wedi bod yn drylwyr” cyn rhoi trwydded ac nad oedd “rheswm i’w wrthod”.

Awgrymodd y crwner y dylai arolygwyr fod wedi ceisio cau’r cartref yn 2004 ond unwaith eto, dywedodd Margaret Rooney fod y cwestiwn yn un “anodd i’w ateb”.

Mae hi wedi ymddiheuro am ddioddefaint y teuluoedd, gan ddweud ei bod hi’n “hyderus iawn fod gennym system a fydd yn ein galluogi ni i ymateb yn gyflym a gwarchod pobol” erbyn hyn.

Mae’r cwest yn parhau.