Mae rhybudd am wyntoedd cryfion ledled Cymru gyfan tan brynhawn yfory (dydd Iau, Mawrth 11), wrth i’r Swyddfa Dywydd rybuddio y gallen nhw godi i gyflymdra o 70m.y.a. mewn ardaloedd arfordirol ac ar y bryniau.

Bydd y rhybudd yn dod i rym am 9 o’r gloch heno (nos Fercher, Mawrth 10).

Mae’r RNLI yn rhybuddio pobol i fod yn ofalus os ydyn nhw mewn ardaloedd arfordirol, gan gynnwys clogwyni, llwybrau traeth neu ger pier.

Mae disgwyl gwyntoedd cryfion a glaw trwm o 50 i 70m.y.a cyn iddyn nhw ostegu brynhawn yfory ac fe allai trafnidaeth gyhoeddus a chyflenwadau trydan gael eu heffeithio mewn sawl ardal.