Er bod dros 3,000 o droseddau stelcian wedi cael eu hadrodd i heddluoedd Cymru y llynedd, fe ddaeth i’r amlwg mai dim ond dau orchymyn i amddiffyn dioddefwyr gafodd eu cyflwyno yn ystod yr un cyfnod.

Ers mis Ionawr y llynedd, mae gan heddluoedd Cymru y gallu i ddefnyddio’r pwerau newydd a gafodd eu cyflwyno i amddiffyn dioddefwyr sy’n cael eu stelcian.

Roedd y pwerau newydd i fod i’w gwneud hi’n haws i ddioddefwyr gael cymorth, a byddai’n drosedd i’r stelciwr dorri’r gorchymyn.

Ond mae cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru wedi datgelu mai yn anaml y mae heddluoedd Cymru yn gwneud hynny.

Er i holl heddluoedd Cymru wneud cais am orchymyn i’r llysoedd, dim ond dau orchymyn sydd wedi eu caniatáu yng Nghymru – un gan Heddlu Dyfed-Powys ac un gorchymyn dros dro gan Heddlu’r Gogledd.

Yn ôl y cais rhyddid gwybodaeth, mae yna heddluoedd sydd hefyd yn disgwyl penderfyniad am gais ar ran dioddefwr ar hyn o bryd.

Mae yna alw am fwy o hyfforddiant ac addysg i blismyn i wybod pryd mae angen gwneud cais i orchymyn amddiffyn unigolion.

‘Siomedig’

Y bargyfreithiwr a’r cyn Aelod Seneddol dros Blaid Cymru Elfyn Llwyd oedd y person cyntaf i alw am gyflwyno cyfraith ar stelcian.

“Mae posib i’r gorchmynion yma bara am ddwy flynedd, neu hyd yn oed yn hirach a dw i wedi croesawu nhw ers y dechrau, ond dw i’n bur siomedig ar y ffigurau yma,” meddai wrth raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru.

“Pan ddos i â’r mesur i mewn yn wreiddiol, roeddwn i’n pwysleisio bod rhaid i ni hyfforddi heddweision i fyny i’r safon i ddelio gyda’r materion yma yn gywir, yn drylwyr ac ar frys.

“Mi wnes i awgrymu pryd yna y byddai’n beth da i heddluoedd Cymru i hyfforddi hyn a hyn o swyddogion i fod yn arbenigwyr yn y maes dros dro cyn sicrhau fod pawb yn dod i mewn i’r peth ac yn dysgu a chael eu hyfforddi yn gywir.

“Dw i’n ofn be sydd wedi digwydd ydi hwyrach bod yr heddlu yn cymryd y ffordd haws allan, mae yna ddeddfau eraill sydd o bosib yn haws i’w profi, ond dydyn nhw ddim yn delio a’r drosedd arbennig yma o stelcian.

“Oherwydd salwch meddwl ydi o yn aml iawn, ac mae’n bwysig ein bod ni’n edrych arno fel trosedd unigryw, ac mae’n beryglus iawn i beidio â gwneud hynny.

“Dydy’r bobol yma ddim yn mynd i roi’r gorau i’w hymddygiad heb ymyriad meddygol.

“Efo’r mesurau newydd yma sydd mewn lle ers blwyddyn, dw i’n meddwl fod nhw [yr heddluoedd] yn dal i lusgo’u traed, ond i fod yn deg â nhw hefyd, mi ydan ni yn yr oes Covid ac wrth gwrs mae ’na gannoedd o achosion yn aros i ddod o flaen y llys ac o bosib fod hwnnw wedi cael effaith hefyd.

“Ond dw i yn ofni tydi’r heddlu ddim wedi mynd ati o ddifri i ddelio â’r drosedd yma.”