Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y bydd dros 300 o gefnogwyr yn ffurfio rhes ar hyd Argae Tryweryn i sefyll yn erbyn “grymoedd y farchnad dai sy’n tanseilio cymunedau Cymru”.
Bydd y rali’n cael ei chynnal ar Orffennaf 10 am 1yp yn unol â rheolau Covid-19.
Mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi y bydd Delyth Jewell a Dafydd Iwan yn annerch y dorf yn y rali, ac y bydd y cyfan yn cael ei ffilmio gan ddrôn a’i ddarlledu’n fyw ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Rydan ni’n falch iawn fod Dafydd Iwan a Delyth Jewell – dau ymgyrchydd a gwleidydd o ddwy gornel wahanol o Gymru – yn rhannu llwyfan i ddangos fod y farchnad dai yn chwalu cymunedau lleol ledled y wlad,” meddai Osian Jones, y llefarydd ar ran yr ymgyrch.
“Mae’n achosi gwahanol fathau o broblemau mewn gwahanol ardaloedd, ond yr un yw’r canlyniad: fod pobl ifanc yn methu cael hyd i gartrefi yn eu cymunedau eu hunain.
“Bydd y bobol sy’n bresennol yn Rali Tryweryn yn llofnodi datganiad enfawr yn galw ar y llywodraeth newydd i basio Deddf Eiddo fel mater o frys i amddiffyn ein cymunedau.
“Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn cyhoeddi enwau rhagor o bobl fydd yn cymryd rhan yn y rali, ac enwau pobl amlwg a fydd yn llofnodi’r alwad ar y llywodraeth newydd.
“Rydyn ni’n gohirio cynnal y rali tan ganol yr haf er mwyn sicrhau’r cyfle gorau y byddwn yn gallu cynnal rali fawr i anfon neges glir i’r llywodraeth newydd, tra’n parchu gofynion iechyd o ran cadw pellter cymdeithasol.”
Rhybudd “na fydd y Gymraeg yn parhau fel iaith gymunedol”
“Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru basio Deddf Eiddo i reoleiddio’r farchnad dai fel mater o frys yn dilyn yr etholiad ym mis Mai,” meddai Mabli Siriol, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
“Os byddwn yn parhau i oedi, ni fydd y Gymraeg yn parhau fel iaith gymunedol. Wedi degawdau o drafod, daeth amser gweithredu.
“Yn ogystal, fel rhan o’n gweledigaeth ‘Mwy Na Miliwn – Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb’, rydyn ni’n galw ar lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno pecyn o fesurau er mwyn trawsnewid y farchnad dai, megis trethi ar dwristiaeth, elw landlordiaid ac ail dai.
“Dylai ein gwleidyddion fod yn gweithio er budd pobl gyffredin a’n cymunedau, yn hytrach nag er budd y cyfoethog.”