Mae arweinydd Cyngor Caerdydd yn dweud nad yw am weld bar poblogaidd yn cau er mwyn gwneud lle ar gyfer tŵr uchaf Cymru, ond mae’n mynnu bod datblygiadau uchel fel hyn yn ateb y galw cynyddol am dai yn y brif ddinas.

Er nad oes cais cynllunio wedi ei gyflwyno eto, mae datblygwyr yn awyddus i godi adeilad 35 llawr, sy’n cynnwys 350 o fflatiau, ar safle’r bar poblogaidd Porters.

Dyma’r adeilad cerddoriaeth byw diweddaraf fydd efallai yn gorfod gwneud lle i fflatiau.

Yn dilyn gwrthwynebiad a gorymdeithiau, cafodd bar cerddoriaeth annibynnol Gwdihŵ ar stryd Guildford Crescent ei ddymchwel yn rhannol yn 2019 i wneud lle ar gyfer adeilad 29 llawr.

‘Cartref newydd parhaol’

Eglura Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, ei fod eisoes wedi bod mewn cysylltiad â pherchnogion Porters ac wedi cynnig cymorth gan y Cyngor Sir i ddod o hyd i “gartref newydd parhaol”.

“I fod yn glir, beth sydd yn digwydd yma yw bod landlord preifat yn edrych i ddatblygu ei dir, ac sydd wedi rhoi rhybudd i’w denantiaid ar ddiwedd eu prydles yn 2022,” meddai.

“Nid oes gan hyn ddim i wneud gyda’r Cyngor.

“Rwy’n deall bod gan Porters berthynas dda â’r landlord.”

Does dim cais cynllunio wedi ei wneud eto ond mae Huw Thomas yn tybio bod y landlord yn bwriadu cychwyn ymgynghoriad cyn hir.

“I ateb y cwestiwn pam bod datblygiadau uchel yn cael eu cynnig yng nghanol y ddinas, yr ateb syml yw bod Caerdydd yn ddinas sy’n tyfu gyda galw mawr am dai – a phrisiau tai yn uwch nag erioed,” meddai.

Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd

Yn 2019, cafodd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd ei sefydlu gan y Cyngor fel rhan o’u Strategaeth Cerddoriaeth.

“Mae’r [Bwrdd Cerddoriaeth] wedi bod yn cyfarfod drwy gydol y pandemig, ac mae’n canolbwyntio ar adferiad y sector, ac mae eisoes yn cael effaith ar geisiadau cynllunio,” eglura Huw Thomas.

“Er enghraifft, mae nifer o amodau cynllunio – megis amodau atal sŵn – a osodwyd ar ddatblygiad wrth ymyl [tafarn] y Flute and Tankard, yn ganlyniad uniongyrchol i wrthwynebiadau a gyflwynwyd gan Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd.

“I grynhoi, pwersu cyfyngedig sydd gan y Cyngor mewn achosion masnachol fel hyn, ond mae cynnig wedi’i wneud i gynorthwyo Porters i adleoli, oherwydd o’m rhan i, rydym am gael mwy, nid llai o leoliadau fel hyn yng Nghaerdydd.”

Lleoliadau cerddoriaeth fyw yn wynebu “bygythiad difrifol”

Rhaid gweithredu cyn ei bod hi’n rhy hwyr, yn ôl un o Bwyllgorau’r Senedd