Mae gorymdaith i gefnogi busnesau Guildford Crescent Caerdydd yn mynd yn ei blaen, er i berchnogion yr adeiladau ohirio’r gwaith dymchwel am y tro.
Cafodd perchnogion bar Gwdihŵ a nifer o fusnesau eraill wybod y byddai’n rhaid iddyn nhw adael eu safleoedd erbyn diwedd y mis.
Ond mae’r cynlluniau wedi cael eu gohirio am y tro, yn dilyn gwrthwynebiad sydd wedi gweld mwy nag 20,000 o bobol yn llofnodi deiseb.
Mae ymgyrchwyr yn galw am warchod – neu gofrestru – yr adeiladau, ac mae Cadw am gwblhau’r gwaith paratoadol gyda’r gobaith o gyflawni hynny.
Mae cynlluniau ar y gweill bellach i adnewyddu’r ardal.
Gorymdaith
Bydd gorymdeithwyr yn cyfarfod ar Stryd Womanby y brifddinas am 2 o’r gloch.
Cyn y cyhoeddiad, roedden ni’n gofidio y byddai staff y busnesau yn colli eu swyddi.
Maen nhw’n dweud eu bod yn tynnu sylw at ba mor “unigryw” yw diwylliant a chymeriad y brifddinas, a bod yr adeildau’n “fwy na brics”.
Ar ddiwedd yr orymdaith, fe fydd cyngerdd gyda rhai o fawrion y sîn gerddoriaeth Gymraeg, gan gynnwys Gruff Rhys a Gwenno.