Mae S4C wedi cadarnhau nad yw’n cael darlledu addasiadau Cymraeg o ffilmiau byrion The Gruffalo oherwydd anawsterau o ran hawlfraint y llyfrau Cymraeg.
Mae’r BBC wedi darlledu ffilmiau byrion animeiddiedig yn seiliedig ar lyfrau hynod poblogaidd Julia Donaldson – fel The Gruffalo, Room on the Broom, Stickman, Highway Rat a Zog – dros y flwwddyn neu ddwy ddiwethaf.
Er bod y llyfrau yma i gyd wedi cael eu haddasu i’r Gymraeg, nid oes yr un wedi eu darlledu eto ar S4C.
Codwyd y cwestiwn parthed y cyfresi teledu yn wreiddiol gan Gwynne Williams, sydd wedi addasu 22 o lyfrau Julia Donaldson i’r Gymraeg i Wasg y Dref Wen, wrth iddo roi cyfweliad arbennig i gylchgrawn Golwg.
“Maen nhw wedi eu haddasu i’r teledu,” meddai’r bardd o Rosllannerchrugog. “Wel, maen nhw ar deledu’r Alban yn y Gaeleg. Dw i wedi bod yn holi – pam dydi S4C ddim yn eu gwneud nhw?
“Mi fuasai’n ddiddorol, a byddai o’n mynd i lawr yn dda, ac yn tynnu sylw at eu gwerthiant.”
Ymateb S4C
Yn ôl S4C, maen nhw wedi bod yn trafod y posibilrwydd o greu’r cyfresi yma yn Gymraeg “ers blynyddoedd” gyda’r cyhoeddwr, ond ofer bu’r sgyrsiau hyd yma.
“Rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda Gwasg y Dref Wen ers blynyddoedd ynglŷn â chreu animeiddiadau o’r cyfresi poblogaidd yma,” meddai llefarydd ar ran y sianel, “ond mae materion yn ymwneud â’r hawliau wedi ein rhwystro hyd yma.”
Mae Gwasg y Dref Wen wedi cyhoeddi nifer fawr o addasiadau o lyfrau poblogaidd Julia Donaldson – fel Y Gryffalo, Wwsh ar y Brwsh, Brig-ddyn, Twm Siôn Bolgi, a Sogi – ac yn dal i wneud hynny.
Achos hawlfriant “heb ei setlo”
Yn ôl llefarydd ar ran y wasg, mae yna “achos hawlfriant hanesyddol” rhyngddyn nhw ac S4C sydd “heb ei setlo”, ac mae’n honni bod y sianel wedi defnyddio deunydd arall y wasg “heb ganiatâd.”
“Mae’n anffodus nad oes modd i Dref Wen a S4C ddod i gytundeb ar gyfer animeiddio’r llyfrau hyfryd hyn ar gyfer plant Cymru,” meddai Gwilym Boore, “ond mae’r sianel yn ymwybodol bod achos hawlfraint hanesyddol, yn sgil darlledu deunydd Dref Wen heb ganiatâd, heb ei setlo.
“Mae’r wasg wedi bod yn agored i sgyrsiau am y mater hwn ond does dim awgrym gan S4C ei bod nhw eisiau mynd â’r maen i’r wal.”
Hyd yma, mae’r llyfr Cymraeg Y Gryffalo wedi gwerthu tua 15,000 o gopïau.
Mae cyfweliad gyda’r addasydd nodedig Gwynne Williams am ei lyfrau yng nghylchgrawn Golwg heddiw (Mawrth 11 2021), dolen isod.