Bydd S4C yn dangos llai o’r gyfres  Rownd a Rownd oherwydd effaith covid.

Dim ond un bennod wythnosol fydd i’w gweld, yn hytrach na’r ddwy arferol, a hynny wedi i’r criw cynhyrchu cwmni teledu Rondo orfod gohirio ffilmio yn dilyn achosion o covid ymysg y staff.

Dywedodd y cynhyrchwyr ar Twitter bod Covid “wedi cael effaith ar ein hamserlen ffilmio felly er mwyn ein cadw ni ar y sgrin cyn hired â phosib, ‘da ni’n torri’r penodau i lawr o 2 i 1 yr wythnos. Diolch am eich cefnogaeth yn ystod y cyfnod digynsail hwn.”

Cefndir

Mae’r gyfres boblogaidd wedi ei ffilmio yn Ynys Môn ers 25 mlynedd, ond oherwydd y sefyllfa yn ymwneud a Covid-19 bu’n rhaid adeiladu setiau pwrpasol newydd yn Llangefni ac yng Nghaernarfon y llynedd.

Bu’n rhaid gohirio ffilmio’r gyfres fis Mawrth y llynedd yn sgil y coronafeirws, cyn ailddechrau fis Awst.

Yna, bu’n rhaid gohirio ffilmio ddwywaith ym mis Chwefror eleni ar ôl i achosion o Covid-19 gael eu cofnodi yn swyddfa’r cwmni teledu sy’n cynhyrchu’r gyfres, Rondo.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cadarnhau bod eu swyddogion yn rhan o ymchwiliad i achosion diweddar o’r coronafeirws yn safle cwmni Rondo Media yng Nghibyn, ger Caernarfon.

Bu farw Huw Gethin Jones, golygydd gyda chwmni teledu Rondo, oedd yn 34 oed ac yn dod o Ynys Môn, yn sgil cymhlethdodau’n ymwneud â Covid-19 ym mis Chwefror.

Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i achosion Covid-19 diweddar cwmni Rondo yng Nghaernarfon

Y gwaith o ffilmio Rownd a Rownd wedi ei ohirio ddwywaith yn y misoedd diwethaf