‘Yr Amgylchedd’ yw thema Gŵyl Gerdd Bangor eleni, ac mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd yn gyfle i amlygu argyfwng yr amgylchedd “mewn celfyddyd.”
Mae’r ŵyl yn dechrau heddiw (Mawrth 12), a bydd yr holl gyngherddau yn cael eu ffrydio ar blatfform digidol AM, ac yn canolbwyntio yn bennaf ar gerddoriaeth gyfoes.
Eleni, mae’r arlwy yn cynnwys perfformiadau gan y delynores a’r gyfansoddwraig Mared Emlyn, y Solem Quartet, y cantorion Caryl Hughes a Paul Carey Jones, a’r pianydd Wyn Davies, cyn cloi gyda synau atmosfferig Electroacwstig Cymru.
Ymysg yr uchafbwyntiau bydd cyngerdd teyrnged i’r cyfansoddwr Cymreig John Metcalf, ac mae ei waith yn cael ei ddathlu ymhellach gyda ‘Zoomposiwm’.
“Pwyslais ar addysg”
Bu’r ŵyl yn uchafbwynt diwylliannol yn ninas Bangor byth ers ei sefydlu ar droad y ganrif.
“Fe wnaeth criw o fyfyrwyr ymchwil benderfynu yn y flwyddyn 2000 i sefydlu gŵyl gerdd newydd ym Mangor, oherwydd nad oedd cymaint o gyfleoedd i wrando ar gerddoriaeth newydd ar y pryd,” meddai Guto Pryderi Puw, Cyfarwyddwr Artistig yr ŵyl ac un o’r sefydlwyr wrth golwg360.
Dechreuodd yr ŵyl yn “fach iawn”, gydag “ambell i gyngerdd yma ac acw, a thrio gwneud pethau ‘chydig bach yn wahanol”, a chynnwys “cerddoriaeth gyfoes hefyd.”
Fel arfer, mae pwyslais ar addysg o fewn yr ŵyl, a chydweithio gydag ysgolion ar brosiectau cyfansoddi.
“Mae’n bwysig iawn bod y disgyblion hynny yn dod i’r ŵyl a chael eu cyfansoddiadau nhw wedi’u perfformio yn yr ŵyl, neu’n cael perfformio eu hunain,” meddai Guto Puw.
“Mae hynny wedi bod yn bwysig ar hyd y blynyddoedd, ac mae’n dal i fod hyd heddiw.
“Eleni, dydi o ddim mor amlwg oherwydd y sefyllfa, ond fel arfer mae gynnon ni weithgaredd cryf iawn efo addysg.”
Mae’r ŵyl yn “ceisio cefnogi cyfansoddwyr o bob cenedl,” ac yn “trio comisiynu cyfansoddwyr cymharol ifanc er mwyn rhoi hwb i’w gyrfa nhw.
“Ond, eleni rydym ni’n comisiynu’r rhai ychydig bach yn hŷn i ddathlu pen-blwydd John Metcalf yn 75,” eglura Guto Puw.
“Thema amserol”
Bydd pump premier byd o gyfansoddiadau newydd yn ymateb i’r thema ‘Yr amgylchedd’ dros y penwythnos.
“Mae hi’n thema amserol iawn,” meddai Guto Puw.
“Roedden ni’n teimlo, nid yn unig ein bod ni mewn pandemig sydd, i raddau, yn cael ei gysylltu gyda’r amgylchedd. Ond, hefyd, mae yna lawer o bwyslais wedi bod yn fyd-eang ar drio taclo problemau gyda’r amgylchedd.
“Mae hynny’n un o’r pethau mae John Metcalf, fel cyfansoddwr, yn ymdrin ag o yn ei gerddoriaeth yn aml.
“Ond wrth gwrs, mae o mor amserol erbyn hyn oherwydd rydym ni’n cael ein heffeithio gan stormydd mawr neu hafau poeth iawn, ac oni bai ein bod ni’n gwneud rhywbeth ynglŷn â’r peth mi fyddwn ni mewn dyfroedd dyfnion – mewn mwy nag un ystyr!”
Mae’r trefnydd yn gobeithio y bydd yr ŵyl yn amlygu’r argyfwng hinsawdd “mewn celfyddyd, mae’n ffordd arall i ddod â’r neges yma drosodd i’r cyhoedd.”
Gallwch ymuno â’r ŵyl ar wefan AM.