Mae’r band yn dathlu degawd o rocio’r Sîn gyda senglau ac albwm newydd…

Mae Sŵnami yn ôl gyda sengl secsi y medrwch chi gael smooch iddi!

Ar ‘Uno, Cydio, Tanio’ mae’r band gitâr indi yn swnio fel y Backstreet Boys yn canu R’n’B… ond yn Gymraeg, wrth reswm.

Aeth degawd heibio ers i Sŵnami ffrwydro ar y Sîn Roc Gymraeg gyda’r gân indi roc fachog ‘Ar goll’.