Mae parhau â chysylltiadau diwylliannol tramor “yr un mor bwysig ag erioed” a “does yna ddim tollau ar rannu cerddi” yn ôl ein Bardd Cenedlaethol…

Un o’r pethau mawr yng nghasgliad diweddaraf y bardd Ifor ap Glyn yw pwysigrwydd parhau i “gynnal deialog” gyda diwylliannau ac ieithoedd eraill.