Wrth i’r ffrae boethi am reoliadau newydd i atal llygredd amaethyddol fydd yn dod i rym ledled Cymru ar Ebrill 1, mae undeb ffermwyr yr NFU yn bygwth cyfraith ar Lywodraeth Cymru.

Bwriad Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yw clustnodi Cymru gyfan yn Barth Perygl Nitradau [Nitrate Vulnerable Zone – NVZ].