Colli hen gapeli Cymru yw un o “droseddau treftadaeth mwyaf ein hoes” – dyma farn gref rheolwr elusen hen addoldai.

Mae’r Friends of Friendless Churches yn gwarchod oddeutu 25 o eglwysi bach drwy Gymru, ond mae cyfarwyddwr yr elusen yn pryderu am dranc hen gapeli Anghydffurfiol y genedl.