Yn ôl ei gyhoeddwr, mae Gwynne Williams wedi creu “gwyrthiau” gyda’i addasiadau o gyfres boblogaidd Y Gryffalo…

‘Beth yn y byd ydy gryffalo?’ Dyma gwestiwn y mae’r 15,000 o bobol sydd wedi prynu copi o’r llyfr Y Gryffalo yn gwybod yn iawn sut i’w ateb. Y gryffalo, wrth gwrs, yw’r bwystfil â’r ‘penliniau mawr caled, ewinedd sy’n rhwygo, A lwmpyn llawn gwenwyn ar flaen ei drwyn o!’